Dal dy ddŵr - Haws dweud na gwneud

  • Cyhoeddwyd
Menai Pitts a'i thadFfynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Menai a'i thad

'Chwerthin nes fod y dagrau'n llifo lawr ei choesau... mae'n gallu digwydd i unrhyw un.'

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Ymataliaeth (Incontinence), mae Menai Lloyd Pitts o Gaernarfon, gweithiwr llawrydd ym maes teledu, yn sôn am yr her o dal dy ddŵr wrth fynd yn hŷn.

Wel, mae'r cyfnod lockdown 'ma wedi bod yn un rhyfedd. Dwi wedi bod yn bondio dros bingo ar Zoom bob nos Fercher efo chwech o hen ffrindiau ysgol, Nia, Sian, Sioned, Rhian, Lorraine a Gill.

Dwi'n dweud bondio oherwydd ein bod yn ddiethriaid erbyn hyn mewn gwirionedd, heb gadw cysylltiad ers gadael ysgol yn 1981 a mond wedi cysylltu eto yn ddiweddar dros Facebook.

Mae bingo yn newydd i rai, a Zoom yn newydd i bawb.

Lorraine oedd wrth y llyw nos Fercher, rêl pro, yn galw'r rhifau: "Droopy Drawers Forty Four;Fifty Eight, Make Them Wait…"

"Wait," medda fi wrth esgusodi'n hun i adael y gêm i fynd i'r tŷ bach.

"Oi, dal dy ddŵr am funud bach," mynnodd Nia, "'da ni bron â gorffen."

Hmm, haws dweud na gwneud. Eglurais nad oedd dal dŵr yn opsiwn, pan ddaw yr ysfa dwi'n gorfod mynd.

Piso Chwerthin

Erbyn i mi ddychwelyd, roedd Gill a'i cheg fawr, diflewyn-ar-dafod, wedi annog sgwrs am ddal dŵr ac yn holi'r genod os oedda' nhw'n teimlo bod 'lastig y bledren yn dechra mynd fel maent yn mynd yn hŷn? Oedda nhw yn glychu, gollwng, driblo neu ddripio fel tap sydd angen washar newydd?

Roedd Gill yn dweud bod colli rheolaeth yn achosi lot o embaras iddi. Dywedodd Rhian bod hitha'n deall y dywediad piso chwerthin erbyn hyn ar ôl gig comedi Tudur Owen llynedd.

Chwerthin nes fod y dagrau'n llifo lawr ei choesau.

Sgwrs od ac annisgwyl, yn enwedig rhwng merched canol oed sy' prin yn adnabod ei gilydd.

Cywilydd!

Ydi o'n digwydd i ni gyd wrth fynd yn hŷn?

Roedd Nia'n teimlo ei fod yn annheg dweud mai problem i bobl hŷn ydi o. Cyfaddefodd ei bod yn gwisgo pads bob dydd ers geni tri phlentyn a niwed i'r cyhyrau pelfic yn dilyn episiotomi 20 mlynedd yn ôl.

Dwrdiodd Sian a gofyn iddynt beidio siarad am bethau mor breifat - "Cywilydd!"

Mae'n lletchwith siarad am blymio a'r bledren a methu dal dŵr dydy?

Dwi'n cofio eistedd mewn clinic yn Ysbyty Gwynedd efo fy nhad, roedd yn bryderus a nerfus cyn ei apwyntiaid i dynnu cathetr. A finnau'n teimlo'n chwithig, methu gwybod be' i ddweud i dawelu ei feddwl.

Yna darllenais boster ar y wal a soniais bod Ymataliaeth Wrinol yn swnio fel cystadleuaeth o'r Ŵyl Cerdd Dant.

'Ac mae'r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Ymataliaeth Wrinol yn mynd i Meleri Myfanwy o Llanfairgwerfylgogogoch sydd wedi gadael pwll maint Llyn Clywedog ar y llwyfan.'

Roedd y ddau ohonom yn chwerthin.

Ffynhonnell y llun, Menai Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Menai a'i thad yn 'piso chwerthin' ar un o'i jôcs

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymataliaeth

Nid yw ymataliaeth yn jôc nac yn destun trafod cyfforddus ond os am drafod, dyma'r diwrnod i gychwyn sgwrs, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymataliaeth.

Urine incontinence ydi'r cyfieithiad Saesneg o Ymataliaeth Wrinol, anhwylder sy'n golygu colli rheolaeth ar y bledren yn llwyr neu'n rhannol. Mae'n gallu digwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac mae'n effeithio ar oddeutu 200 miliwn o bobl drwy'r byd.

Fues i yn y clinic sawl gwaith gyda fy nhad ond nes i ddim deall digon am ymataliaeth. Roedd fy nhad yn diodde' o glefyd Parkinson's ers blynyddoedd, ac wrth i'w iechyd ddirywio, tuag at ddiwedd ei oes, cafodd drafferthion ymataliaeth, anhwylder oedd yn peri gofid a phryder iddo.

Mae pobl yn poeni am hylendid personol ac yn dewis cadw pellter, yn gwrthod gwahoddiadau a pheidio cymdeithasu oherwydd eu bod yn poeni am fethu cyrraedd toiled, am wlychu neu faeddu.

Mae'r cyflwr yn gallu cael effaith difrifol ar iechyd meddwl ac yn gallu arwain at unigrwydd, gor-bryder ac iselder ysbryd.

Roedd y cyngor a'r gofal a gafodd fy nhad gan y gweithwyr iechyd a'r gofalwyr yn ganmoladwy gyda phawb yn ei drin gydag urddas a pharch ac yn sicrhau ei fod yn gyfforddus ac yn hapus. Roedd o'n cael hwyl efo nhw.

Ac oedd sgyrsiau fo a fi, am bob dim dan haul, yn parhau yn yr un modd ag erioed ond bellach roedda' ni hefyd yn siarad am pŵ a pi ac yn trafod safon ac amsugnedd padiau a pants, roeddem yn gallu sgwrsio am y peth heb embaras a mor naturiol a siarad am y tywydd.

Ffynhonnell y llun, Rawpixel

Dyna oedd fy mhrofiad i o ymataliaeth wrinol. Roeddwn yn gweld ei fod yn gyflwr anodd ac annifyr ac yn tybio ei fod yn effeithio ar bobl hŷn ac yn rhywbeth sydd angen meddyg, nyrs a thriniaeth.

Tisan a pisan

'Dwi'n ocê, dwi ddim yn diodde o anhwylder ymataliaeth. Dim fi, dwi'n ocê.'

Er, mi ydw i yn galw tisian yn pisian ers tua pum mlynedd, weithia dwi'n gorfod rhuthro i bi-pi, a dwi bob amser yn poeni am golli rheolaeth ar y bledren os dwi'n chwerthin yn afreolus. Ac mae panty liners yn fy masged siopa yn aml, mae hynny'n hollol normal i gadw'n ffresh dydi?

Ond dwi'n ocê, 'ta be?

Ar ôl sgwrs y genod bingo dwi wedi darllen a deall llawer mwy am ymataliaeth wrinol. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar y we, ac mae'n debyg bod fy symptomau innau'n rhan o'r anhwylder.

Peidiwch â cheisio dal, peidiwch â theimlo cywilydd nac embaras, siaradwch gyda'ch meddyg teulu neu nyrs am eich symptomau a'ch pryderon a thrafodwch eich opsiynau am driniaeth a gofal.

Dwi am wrando ar y cyngor iechyd a newid ambell i beth i leddfu'r symptomau. Os welwch chi fi'n tynnu stumiau a chodi fy aeliau, ymarfer cyhyrau llawr y pelfis fydda i.

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Wasanaeth Ymataliaeth, dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb: