Gyrwyr wedi'u dal yn teithio hyd at 138mya yn y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae gyrwyr wedi cael eu dal yn gyrru ar gyflymderau o hyd at 138mya ar ffyrdd Cymru yn ystod y cyfnod clo, yn ôl yr heddlu.
Tra bod 72% o ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n cael eu dal yn goryrru, mae "cynnydd yn y graddau" y mae pobl yn goryrru, yn ôl corff GoSafe.
Dywedodd GosSafe fod ymddygiad o'r fath yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig.
Cafodd 9,447 o ddirwyon eu rhoi gan heddluoedd Cymru am oryrru rhwng 24 Mawrth a 24 Mai eleni, o'i gymharu â 33,796 yn yr un cyfnod y llynedd.
'Rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl'
Mae'r gostyngiad yn nifer y dirwyon yn cyd-fynd â'r 70% o gwymp yn nifer y ceir ar y ffyrdd yng Nghymru.
"Tra bo' cyfradd y troseddwyr yn debyg, ry'n ni wedi gweld cynnydd yn y graddau mae terfynau cyflymder yn cael eu torri," meddai rheolwr GoSafe, Teresa Ciano.
"Mae'r gyrwyr yma wedi bod yn rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl ar amser ble mae'n rhaid i ni oll chwarae ein rhan trwy leihau nifer y gwrthdrawiadau ac amddiffyn y GIG."
Cafodd y gyrwyr oedd yn gwneud y cyflymderau uchaf eu dal ar yr M4 ger Casnewydd a'r A55 yn Sir Ddinbych.
Mae gyrwyr sydd wedi'u dal yn goryrru rhwng 24 Mawrth - y diwrnod wedi i'r cyfnod clo gael ei gyhoeddi - a 25 Mai yn cynnwys:
138mya mewn ardal 70mya ar yr M4 rhwng cyffyrdd 27 a 26 ger Casnewydd;
133mya mewn ardal 70 ar yr A55 yn Rhuallt, Sir Ddinbych;
Pedwar gyrrwr arall wedi'u dal yn gyrru rhwng 109 a 117mya rhwng cyffyrdd 26 a 27 ar yr M4;
Dau yrrwr arall wedi'u dal yn gwneud rhwng 110 a 111mya ar yr A55 yn Rhuallt;
109mya mewn ardal 70 ar yr A483 yn Yr Orsedd, Wrecsam.
Er y ffigyrau, dywedodd Ms Ciano bod yr heddlu'n parhau i fod yn llym gyda goryrwyr yn ystod y cyfnod clo.
"Er y lefel uchel o oryrru ar ran o'n ffyrdd, ry'n ni wedi gweld nifer o safleoedd heb unrhyw oryrru o gwbl - arwydd amlwg o'r system yn gweithio ar ei orau," meddai.
Ychwanegodd Ms Ciano bod yr heddlu wedi sefydlu mannau goruchwylio cyflymder pan fo pryderon wedi cael eu codi yn lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020