Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 0-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Rhian Brewster scores second goalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Brester yn sgorio ail gol Abertawe

Fe wnaeth Abertawe greu cryn argraff wrth i'r Bencampwriaeth ailddechrau gan ysgubo Middlesbrough o'r neilltu.

Sgoriodd Rhian Brewster, sydd ar fenthyg o Lerpwl, ddwywaith yn yr hanner awr agoriadol, gydag Andrew Ayew yn ychwanegu cic o'r smotyn.

Yn ogystal, fe wnaeth Abertawe lwyddo i daro'r postyn ddwywaith hyd yn oed cyn sgorio.

Ar ôl dim ond chwe munud fe darodd ymdrech Aldo Kalulu yn erbyn y postyn.

Ar ôl dweud hynny roedd y chwaraewr yn lwcus i aros ar y cae, ar ôl iddo gael cerdyn melyn ychydig cyn yr egwyl am dacl flêr.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl 18 munud yn dilyn rhediad cryf gan Ayew, a'i groesiad yn dod o hyd i Brewster.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Daeth yr ail dri munud yn ddiweddarach, foli gan Brewster y tro hwn wedi croesiad Kalulu.

Roedd Abertawe yn rheoli'r chwarae, a daeth y drydedd ar ôl trosedd ar Conor Gallagher yn y blwch cosbi.

Aeth hi'n dawelach yn yr ail hanner, ond bron i'r Elyrch ymestyn eu mantais ar ddiwedd y gêm.

Fe darodd ymdrech George Byers oddi ar y postyn, gyda Joradan Garrick a Bersnat Celina yn methu manteisio.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn codi' i'r seithfed safle, un y tu ôl i Preston yn safleoedd ail-gyfle, ar wahaniaeth goliau.