Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Luton Town
- Cyhoeddwyd
Roedd disgwyliadau mawr ar ysgwyddau Abertawe wrth iddynt herio Luton Town, sydd ar waelod y Bencampwriaeth.
Pe bai Caerdydd a Preston wedi cael gêm gyfartal, byddai buddugoliaeth i Abertawe wedi eu codi i blith y timau ail-gyfle.
Ond nid oedd Luton yn barod i ildio i obeithion Abertawe.
Gyda'r Cymro Nathan Jones yn rheoli roedd Luton am ddiogelu eu lle yn y Bencampwriaeth. Y Gwyddel James Collins wnaeth y gwaith angenrheidiol i Luton gyda pheniad grymus i gornel dde y rhwyd ar ôl croesiad gan Isaiah Brown ar ôl 72 o funudau.
Roedd yna ddigon o waith i'r dyfarnwr wedi'r gôl wrth i Mpanzu o Luton gael cerdyn melyn a Garrik o Abertawe gael cerdyn coch.
Gyda dim ond saith munud ar ôl a deg chwaraewr ymdrechodd yr Elyrch yn galed ond ar waethaf ymdrechion Grimes, Wilmot, Gallagher a Routlidge yn y naw munud dros y 90, methiant fu ymdrech yr Elyrch a cholli oedd eu hanes.
Degfed safle
Mae'r Elyrch felly wedi syrthio i'r degfed safle - bedwar pwynt tu ôl i Gaerdydd.
Mae Caerdydd wedi codi i blith y timau ail gyfle wedi iddynt gael buddugoliaeth yn Preston.
Y tro diwethaf i'r Abertawe a Preston gyfarfod oedd ym mis Rhagfyr - yr Elyrch oedd yn fuddugol y tro hwnnw wedi gôl hwyr gan Andre Ayew.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019