Y Bencampwriaeth: Millwall 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
BrewsterFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cic rydd Rhian Brewster arweiniodd at gol yr Elyrch

Mae gobeithion CPD Abertawe o esgyn i'r Uwch Gynghrair y tymor nesaf yn fregus wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Millwall.

Roedd y rheolwr Steve Cooper yn ddi-flewyn ar dafod wrth feirniadu ei dîm wedi'r golled yn erbyn Luton dros y penwythnos, ond er iddo ofyn am fwy o ymdrech doedd yr Elyrch ddim yn medru cipio'r fuddugoliaeth oedd wir ei hangen.

Cyn y gic gyntaf daeth y newyddion drwg fod amddiffynwr Abertawe a Chymru, Joe Rodon wedi cael anaf sy'n debyg o'i gadw allan am weddill y tymor.

A daeth newyddion drwg eto wedi 21 munud o chwarae pan rwydodd Mason Bennett o bas Jed Wallace i roi Millwall ar y blaen.

Er i'r Elyrch gael mwyafrif y meddiant, doedd dim yn tycio tan 66 munud pan ddaeth Abertawe'n gyfartal wrth i golwr Millwall, Bartosz Bialkowski, roi'r bêl yn ei rwyd ei hun yn dilyn cic rydd wych gan Rhian Brewster.

Gallai'r canlyniad fod wedi bod yn waeth i'r Elyrch gan i Murray Wallace fethu dau gyfle da yn y munudau olaf i Millwall, gydag un cynnig yn taro'r postyn.

Mae'r canlyniad yn gadael Abertawe bedwar pwynt y tu allan i ardal y gemau ail-gyfle gyda chwe gêm yn weddill.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mason Bennett yn dathlu rhoi Millwall ar y blaen