Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Sheffield Wednesday
- Cyhoeddwyd
Er gwaethaf dechrau simsan, fe gurodd Abertawe Sheffield Wednesday i gadw'r gobeithion yn fyw i gael cystadlu am ddyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr.
Y gwrthwynebwyr gafodd y gorau o'r hanner cyntaf o bell, gan amlygu gwendidau amddiffyn tri dyn yr Elyrch, ond fe wnaethon nhw fethu â manteisio ar hynny gan wastraffu cyfleoedd i sgorio.
Ond fe rwydodd Abertawe ar y cyfle gwirioneddol cyntaf, yn gynnar wedi'r egwyl, gydag ergyd nerthol o agos gan Rhian Brewster.
Daeth yr ail gôl o'r smotyn, wedi 66 o funudau gan Andre Ayew, wedi trosedd yn erbyn Connor Roberts.
Atdhe Nuhiu sgoriodd gôl gysur Sheffield Wednesday ym munudau ychwanegol yr ail hanner.
Mae'r canlyniad yn golygu fod tîm Steve Cooper wedi codi o'r 10fed i'w wythfed safle yn y Bencampwriaeth, o fewn pedwar pwynt i'r gemau ail gyfle gyda phum gêm yn weddill.