Oedd mwy i Aneurin Bevan na'r GIG?

  • Cyhoeddwyd
Aneurin BevanFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar 6 Gorffennaf, mae hi'n 60 mlynedd ers marwolaeth Aneurin Bevan, sef y gŵr o Dredegar a lansiodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948.

Ond yn ôl Dr Nye Davies, sy'n ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, roedd mwy i'w yrfa na hynny.

Pan fu farw, gadawodd Aneurin Bevan etifeddiaeth fawr.

Fel y Gweinidog dros Iechyd a Thai yn llywodraeth Attlee wedi'r rhyfel, mae Bevan yn cael ei gofio'n annwyl fel 'sylfaenydd y GIG'. O ganlyniad, mae gwleidyddion o bob lliw yn dadlau pan mae'n dod at y GIG, eu bod nhw'n amddiffyn 'egwyddorion Bevan'.

Er hyn, roedd Bevan wedi byw bywyd hynod ddiddorol a all gael ei anghofio pan mae ei waddol yn cael ei grynhoi i'r GIG yn unig.

Yn gweithio fel glöwr ers ei fod yn 13, roedd Bevan yn undebwr llafur, cynghorydd, ymgyrchydd gwrth-ffasgiaeth pybyr, un o feirniaid mwyaf clymblaid y llywodraeth yn ystod y rhyfel a llawer mwy.

Roedd hefyd yn cynrychioli pethau gwahanol i wahanol bobl; i'w gefnogwyr, roedd yn wleidydd egwyddorol, yn ogystal ag yn adeiladwr sefydliadau anrhydeddus, tra bod ei wrthwynebwyr yn aml yn ei feirniadu am godi trwbl - yng ngeiriau Winston Churchill, roedd yn "squalid nuisance".

Bywyd cynnar Bevan

Lle da i ddechrau wrth edrych ar fywyd Bevan, yw ei fagwraeth yn Nhredegar. Cafodd profiad cynnar Bevan o wleidyddiaeth yn ei gymuned effaith ddofn ar ei olwg ar y byd.

Nod Aneurin Bevan oedd i sosialwyr gipio gymaint o ganolfannau pŵer lleol â phosib. Golygai hyn iddo geisio cymryd rheolaeth neu ddylanwadu'n drwm ar sefydliadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, neu Sefydliad y Gweithwyr, ac eistedd ar gynghorau tref a sir.

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o’r llun,

Bevan yn annerch y dyrfa mewn gwrthdystiad yn 1936

Roedd ymgais Bevan i ennill pŵer yn cael ei wthio gan ei ddyhead i ddiddymu tlodi, a gafodd ei ddisgrifio ganddo fel "yr ymwybyddiaeth cyffredinol o galedi diangen... law-yn-llaw â theimlad dwfn o rwystredigaeth ac anfodlonrwydd gyda'r sefyllfa gymdeithasol bresennol".

Fel yr eglurodd S O Davies, AS Merthyr a chyfoeswr Bevan, roedd yr amodau roedd Bevan wedi eu profi wedi meithrin ei "torrential vituperation, his deadly ridicule and acid wit".

Fodd bynnag, roedd Bevan bob amser yn teimlo fod y gwir bŵer i'w ddarganfod y tu hwnt i Dredegar. A hyn wnaeth ei annog i sefyll fel Aelod Seneddol yn 1929.

Bevan yn yr 1930au

Fel AS, sefydlodd Bevan ei hun fel rhywun nad oedd yn ofni gwneud safiad egwyddorol, hyd yn oed os oedd hynny'n golygu herio gorchmynion y blaid.

Yn ystod yr 1930au, roedd yn lleisio'i feirniadaeth o'r arweinydd Llafur Ramsay MacDonald, a sefydlodd lywodraeth glymbleidiol yn 1931. Parhaodd i feirniadu'r llywodraeth genedlaethol drwy gydol y 1930au, hyd at arweinyddiaeth Neville Chamberlain, gan amddiffyn y di-waith ac ymosod ar bolisi Chamberlain o dawelu'r dyfroedd.

Cymerodd Bevan ran fawr mewn ymgyrchoedd oedd yn mynnu cefnogaeth i'r Gweriniaethwyr yn Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartef. Yn 1938, yn ystod y gwrthdaro, aeth ar daith i Sbaen, gan adrodd yn y Tribune am brydferthwch y wlad, ond hefyd am realiti caled y frwydr yno.

Daeth gartref "gyda balchder yn nosbarth gweithiol Sbaen" a'u brwydr arwrol. Er ei ymdrechion i ymgyrchu dros anfon cefnogaeth i Sbaen, parhaodd llywodraeth y DU â'r polisi o beidio ag ymyrryd. Syrthiodd y wlad i Franco yn Ebrill 1939.

Ffynhonnell y llun, William Vanderson
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y Blaid Lafur, Hugh Gaitskell, y Cadeirydd Barbara Castle ac Aneurin Bevan yn 1959. Roedd gan Gaitskell a Bevan syniadaeth wahanol, a rhannwyd cefnogaeth aelodau'r blaid o ganlyniad

Ni roddodd Bevan y gorau i ymladd dros achosion y teimlai eu bod yn gyfiawn, ac fe gafodd ei wahardd o'r blaid yn 1939, am wrthod torri'r cysylltiad rhyngddo â'r ymgyrch Popular Front, a oedd yn gynghrair i wrthwynebu polisïau Chamberlain - yn groes i ofynion ei blaid.

Ond cafodd ei dderbyn yn ôl yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Dyma'r unig dro i Bevan gael ei wahardd o'r blaid, ond daeth yn agos ati eto yn hwyrach yn ei yrfa.

Ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd, roedd Bevan yn lleisio'i feirniadaeth o Churchill a'i lywodraeth glymbeidiol. Er i hyn ei wneud yn ffigwr dadleuol, roedd yn benderfynol o gynnal yr un egwyddorion democratiaeth gartref ag yr oedd y milwyr yn ymladd drostyn nhw dramor, gan godi cwestiynau pwysig.

Y Bevanites

Ar ôl chwe blynedd mewn llywodraeth, yn ystod yr 1950au cafodd y blaid Lafur ei threchu mewn tair etholiad ar ôl ei gilydd. Dilynodd brwydr rhwng y Bevanites ar chwith y blaid, a'r Gaitskellites/Revisionists ar y dde - y ddwy ochr yn ideolegol ac wedi eu seilio ar bersonoliaethau Bevan a Gaitskell, a ddaeth yn arweinydd y blaid Lafur yn 1955.

Cymododd Bevan â'r arweinyddiaeth yn y diwedd, a daeth yn Ddirprwy Arweinydd yn 1959, ond arhosodd yn ddi-wyro yn ei gred na ddylai'r blaid roi'r gorau i ddadlau o blaid sosialaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Aneurin Bevan yn Nhredegar - ble dechreuodd ei yrfa a'i weledigaeth wleidyddol

Ei ddadl oedd bod yn rhaid "anelu at sefydlu cymdeithas Sosialaidd. Neu fel arall ni fyddai ganddi arwyddocâd yn nyfodol y genedl".

Fe wnaeth yr amodau a welodd yn Nhredegar ei wthio drwy gydol ei fywyd i barhau i ymladd dros wleidyddiaeth oedd yn ceisio anelu at gael gwared ar dlodi ac anghydraddoldeb.

Hefyd o ddiddordeb: