Ar y dydd hwn: Ethol Megan Lloyd George yn AS

  • Cyhoeddwyd

30 Mai 1929

Mae hi'n 90 mlynedd ers i Megan Lloyd George gael ei hethol yn Aelod Seneddol - y ferch gyntaf o Gymru i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive

Cynrychiolodd y blaid Ryddfrydol yn etholaeth Ynys Môn tan 1951.

Erbyn hynny, roedd poblogrwydd y Blaid Ryddfrydol yn dechrau colli ei blwc, a gwleidyddiaeth Megan yn dechrau gwyro oddi wrth safbwyntiau'r blaid.

Yn is-etholiad 1957, enillodd sedd dros y Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin, a'i dal hyd ei marwolaeth yn 1966.

"Yn y gwaed..."

Roedd hi'n anochel mai i fyd gwleidyddiaeth yr ai Megan, a hithau'n ferch i David Lloyd George - yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog Prydain.

Mewn cyfweliad ar raglen Argraff gydag Ednyfed Hudson Davies yn 1965, pan holodd os y byddai'n dewis yr un gyrfa eto, neu'n gwneud rhywbeth gwahanol, meddai:

"Baswn i'n mynd nôl at wleidyddiaeth. Mae o yn fy ngwaed i - mae o'n rhyw feirws na fedra i ddim cael gwared arno fo. Mae arna i ofn y basai'n rhaid i mi gael fy ail-eni cyn y baswn i'n newid, dwi'n meddwl."

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

David a Megan Lloyd George ar daith i Efrog Newydd yn 1923

Fodd bynnag, nid oedd bod yn wleidydd benywaidd yn hawdd, ac roedd nifer o straeon ganddi ynglŷn â'r rhwystrau a'r rhagfarnau yr oedd hi'n gorfod eu hwynebu yn ystod ei gyrfa.

Nid oedd dynion yn ei chymryd o ddifri', meddai, ac weithiau roedd hi'n cymryd dipyn i'w perswadio iddyn nhw ddechrau gwrando ar beth oedd ganddi hi i'w ddweud.

Fel y disgrifiodd, golwg "'o dyma'r beth bach 'ma i ddod i siarad efo ni - fydd rhaid i ni ddiodda' tan y diwedd...'" oedd ar nifer o ddynion yn aml os oedd hi'n areithio o'u blaenau.

Disgrifiad,

Megan Lloyd George yn siarad ar Argraff yn 1965

Yn y cyfweliad ar gyfer rhaglen Argraff, mae hi'n cofio'n ôl at araith yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain, pan fod 2,000 o weinidogion wedi cwyno ymlaen llaw gan nad oedd hi'n 'addas' i ddynes siarad yn yr eglwys.

Er iddi gael y cyfle i areithio yn y diwedd, chafodd hi ddim yr un parch a'r statws â'r dynion a fu'n areithio, a bu'n rhaid iddi siarad o lwyfan bach yn hytrach na'r prif bulpud.

Ond, doedd hi ddim yn un a fyddai'n gadael i ddynion ei gwthio o gwmpas, ac roedd hi'n gyflym iawn i ymateb i unrhyw ddigywilyddra.

Pan y gwaeddodd ddyn arni o'r dyrfa mewn cyfarfod cyhoeddus rhyw dro: "Wouldn't you like to be a man?", ei hymateb di-flewyn-ar-dafod oedd "Wouldn't you?!"

Ffynhonnell y llun, Toronto Star Archives

Bu farw Megan Lloyd George o ganser y fron ym Mhwllheli ar 14 Mai, 1966. Roedd hi'n 64 mlwydd oed.

Heddiw, mae 12 o'r 40 Aelod Seneddol yng Nghymru yn ferched.

Hefyd o ddiddordeb: