Cyflwynydd S4C yn sôn am ei brofiad o hiliaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Nes i jyst llefain, methu credu be' oedd wedi digwydd"

Mae cyflwynydd teledu o Rydaman wedi bod yn sôn am ei brofiadau o hiliaeth wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin bleidleisio o blaid derbyn pecyn o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae Ameer Davies-Rana yn wyneb adnabyddus ar wasanaeth Hansh S4C.

Mewn cyfweliad â'r rhaglen Newyddion, mae'n dweud iddo ddioddef hiliaeth yn rheolaidd yn yr ysgol, ar y cae rygbi ac ar strydoedd Caerfyrddin.

"Yn yr ysgol gynradd, roeddwn i'n sylweddoli fy mod i yn unig berson o liw," meddai.

"Pan es i ysgol uwchradd, dyna ble roedd y comments yn cael eu gwneud fel y p-word, yr n-word. Roedd comments am derfysgaeth.

"Doedd athrawon ddim yn gwybod beth i'w wneud, ac roedd hynny yn gwneud fi yn fwy trist achos roedd y bobl yma yn cael dweud beth oedden nhw eisiau.

"Ges i un sefyllfa rili wael nôl yng Nghaerfyrddin pryd o'n i ar y stryd, yn cerdded lawr yng nghanol dydd, ac roedd grŵp o bobl jyst yn gweiddi'r N-word ac roedd e'n sioc fawr i fi.

"Roedd e' yng nghanol y dydd. Fe wnes i droi mewn i stryd arall a dechrau llefain."

Ffynhonnell y llun, Rhys Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ameer Davies-Rana yn un o gyflwynwyr Hansh, S4C

Mae marwolaeth George Floyd a thwf y mudiad Black Lives Matter wedi ysgogi trafodaethau am briodoldeb cofebion, fel yr un i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin.

Mae'r obelisg anferth yn cofnodi marwolaeth y milwr ym mrwydr Waterloo, ond bu hefyd yn Llywodraethwr Ynys Trinidad, ac fe elwodd o'r diwydiant caethwasiaeth ar yr ynys.

Roedd hefyd yn gyfrifol am orchymyn i arteithio merch ddu 14 oed.

Mae nifer wedi galw am waredu'r gofeb ac enw Picton o strydoedd Caerfyrddin, barn sy'n cael ei rannu gan Ameer Davies-Rana.

"Ie, bydden i yn cael gwared â fe, yn bendant, a rhoi enw Cymraeg arno," meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Y gofeb anferth i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin

Ddydd Mercher penderfynodd y cyngor yn unfrydol i dderbyn cynnig gan grŵp Plaid Cymru yn galw am fabwysiadu cynllun gweithredu ar hiliaeth.

Roedd y cynnig yn cynnwys:

  • "Gwneud datganiad clir a diamwys ei fod yn casáu hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o bob math - yn y gorffennol a'r presennol;

  • "Cefnogi'r neges 'Mae Bywydau Du o Bwys' ac yn credu yn hawl dinasyddion i brotestio'n heddychlon mewn amgylchedd diogel;

  • "Cydnabod pwysigrwydd cymunedau BAME yn ein sir ac yn ymrwymo i weithio gyda hwy, rydym yn anelu at addysgu, adnabod a dileu hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin."

Roedd y cynnig hefyd yn galw am sefydlu grŵp arbennig i wrando ar lais y cymunedau BAME ac i gasglu tystiolaeth er mwyn sicrhau bod eu "pryderon, eu hofnau a'u cynigion yn cael eu clywed yn llawn".

Roedd hefyd rhoi cyfarwyddyd i'r cyngor ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys "i fynd i'r afael â hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o fewn y system farnwrol".

Byddai'r cyngor hefyd yn gweithio gyda'r ysgolion i gynnwys themâu gwladychiaeth, cam-fanteisio, gwahaniaethu a hiliaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Mae'n cynnig adolygiad o enwau strydoedd a henebion cyhoeddus, gan gynnwys yr un i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin, ynghyd ag adroddiad ar eu priodoldeb heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd BLM a adawyd ger cofeb Thomas Picton yn ddiweddar

Yn ôl y Cynghorydd Cefin Campbell, sydd yn gyfrifol am gydraddoldeb ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir, mae dyfodol cofeb Syr Thomas Picton wedi rhannu barn.

"Dwi'n derbyn bod enw Picton - o ran yr hanes erchyll iddo fe a'i berthynas â chaethwasiaeth a chreulondeb i bobl ddu - yn atgas, ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny," meddai.

"Ond i lawer o bobl, a dwi wedi derbyn gohebiaeth ynglŷn â hyn, mae e hefyd yn cael ei weld fel arwr ym mrwydr Waterloo yn erbyn Napoleon.

"Beth 'ni am wneud yw clywed barn y bobl a dod i gasgliad ynglŷn â beth ddylen ni fod yn gwneud mewn ffordd gytbwys a rhesymol ynglŷn â'r gofeb."