Y Bencampwriaeth: Birmingham 1-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Aeth Abertawe o fewn pwynt i safleoedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn Birmingham nos Fercher.
Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn pum munud, wrth i Lukas Jutkiewicz benio i'r rhwyd o gic gornel.
Ond roedd yr Elyrch yn gyfartal wedi 12 munud o chwarae, gyda Rhian Brewster yn rhwydo heibio i Lee Camp o groesiad Conor Gallagher.
Ym munud olaf yr hanner cyntaf llwyddodd yr amddiffynnwr Ben Cabango i sgorio wedi i Birmingham fethu â chlirio'r bêl - gôl gyntaf y cyn-ddisgybl Ysgol Plasmawr dros Abertawe.
Ychwanegodd Jay Fulton drydedd gôl i'r ymwelwyr ar ddechrau'r ail hanner i selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn codi i'r seithfed safle yn y Bencampwriaeth, un pwynt tu ôl i Gaerdydd a safleoedd y gemau ail gyfle.