Croeso cymysg wrth ailagor busnesau Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Wrth i drefi gwyliau a busnesau sy'n dibynnu ar ymwelwyr baratoi i ailagor yr wythnos nesaf, cymysg yw'r farn ar lawr gwlad.
Ein gohebydd Iola Wyn sydd wedi bod yn holi perchnogion busnesau Ceinewydd, Ceredigion.
Yn sicr, mae yna deimladau cymysg yma yng Ngheinewydd - cryn edrych ymlaen i weld y dref yn ailagor ei drysau yn ara' bach, ond mae'r nerfusrwydd i'w weld a'i deimlo yma.
Un o brif atyniadau'r dref yw'r teithiau i weld dolffiniaid ym Mae Ceredigion.
Mae cwch Dafydd Lewis yn arfer medru cymryd 60 o deithwyr - ond nid mwyach.
Oherwydd y rheol dau fetr - bydd y niferoedd bellach rhwng chwech ac 20, yn ddibynnol ar gyswllt gwahanol grwpiau â'i gilydd.
Dywedodd y bydd costau rhedeg y cwch a thalu staff yn golygu y bydd hi'n "sialens" i'r busnes.
"Gobeithio os mae teuluoedd mwy neu grwpiau byddwn ni'n gallu cael lan i 20, ond wedyn mae hwnna'n rhyw drydydd yn llai na be' ni fel arfer yn cario bob trip," meddai.
Mae gweld dolffiniaid hefyd yn gallu creu problem arall, gan fod sawl un yn cyffroi'n lan wrth weld y creaduriaid, ac yn anghofio cadw unrhyw bellter cymdeithasol.
"Fi 'di gweld digon o weithie, amser mae pobl yn gallu colli eu meddylie yn gwbl, a hefyd yn dependo ar ba ochr o'r cwch, maen nhw moyn mynd o un ochr i'r llall, ond bydd rhaid i bobl nawr fihafio ac aros yn y sedd maen nhw wedi archebu."
Dechreuodd Winston Evans weithio ar y môr yng Ngheinewydd gyda'i dad yn y 50au.
Hwn yw'r cyfnod rhyfeddaf eto iddo, ond mae'n cyfaddef iddo fwynhau'r tawelwch hefyd.
"Y gofid mwya' yw i'r disease ddod yn ôl, a dwi'n credu bod Cei yn wide open.
"Falle bod dau 'di bod yn sâl fan hyn drwy'r amser, ond s'neb wedi dod mewn, bydd miloedd yn dod mewn nawr, bydd siŵr rhai ohonyn nhw'n sâl."
Ddydd Sadwrn bydd modd i fythynnod gwyliau hunangynhaliol agor eu drysau wedi gwaith paratoi manwl.
Dywedodd Llinos Young bod hynny wedi golygu llawer mwy o waith papur i asesu'r risg a pharatoi cynllun glanhau ar gyfer ei llety ar Neuadd Farm.
"Bydd rhaid i fi gael mwy o lanhawyr mewn achos ni'n gorfod glanhau nhw fel ni'n arfer 'neud, a wedyn ar ôl hynny maen rhaid i chi fynd rownd y cwbl a disinfecto popeth - tu fewn a tu fas hefyd."
Bydd modd i dafarndai agor y tu allan o ddydd Llun ymlaen, ond mae pryder am ymarferoldeb hynny yn y Llew Du.
Mae "llawer o bethau 'da ni i ystyried" yn ôl y cogydd, Gareth Wyn Davies.
"Bydd pobl yn mynd mewn un ffordd falle, a mas ffordd arall, mae'n rhaid i ni edrych ar ôl y staff, a bobl eraill - y cwsmeriaid i gyd."
Ar ben hynny, fe allai tywydd garw olygu nad yw hi'n werth agor y drysau o gwbl ar adegau.
"Bydd rhaid i bobl fod yn ofalus yn Cei, ac ystyried dim just nhw sy' lawr 'ma, mae pobl eraill a phobl leol hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020