Rhai tafarndai, bariau a bwytai i ailagor o 13 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd
TafarnFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd modd i rai tafarndai, bariau a bwytai yng Nghymru ailagor a gweini mewn mannau awyr agored o 13 Gorffennaf os yw achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng.

Does dim dyddiad eto ar gyfer ailagor busnesau'n llawn, er bod y diwydiant wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny.

Cymru yw unig un o wledydd y DU sydd heb osod dyddiad am ailagor gwasanaethau lletygarwch tu mewn i adeiladau, ac mae rhai o fewn y diwydiant yn feirniadol iawn o arafwch y broses.

Yn ôl grŵp o berchnogion bwytai gallai miloedd o swyddi'r sector fod yn y fantol.

'Bron colli'r haf yn barod'

Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fe ddywedodd un o gyfarwyddwyr Twristiaeth Canolbarth Cymru ei fod wedi colli ffydd yn y llywodraeth.

"Maen nhw'n ein trin ni fel plant bach," dywedodd Rowland Rees-Evans.

Mae Mr Rees-Evans yn berchen ar faes carafanau ger Aberystwyth ac yn feirniadol iawn o'r modd y daeth y cyhoeddiad.

"Lle oedd y cynllun i ni baratoi? Mae rhaid i fi agor erbyn wythnos i dydd Llun, os nad ydw i'n rhoi ordor mewn am gwrw heddi' neu fory gaf i ddim e tan dydd Mawrth a wedyn bydd rhaid i fi aros tan y dydd Mawrth ar ôl.

"Mae'r pethe 'ma yn cymeryd amser i baratoi. Pam na nethon nhw 'weud wrthon ni wythnos dwetha' i ni gael paratoi?"

Mae Mr Rees-Evans hefyd yn credu bod cadw'r rheol dwy fetr yng Nghymru pan fo Lloegr wedi llacio i un metr yn gwneud pethau'n anoddach i'r sector.

"'Wi'n croesawi hwn yn digwydd, ond 'wi ddim wedi gweld cynllun na tystiolaeth. Dyw e ddim yn deg i ni fel diwydiant. Mae rhaid i ni symud yn glouach na lle ni'n mynd nawr. Ni bron colli'r haf yn barod."

Cam cyntaf

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddai'r cam cyntaf o lacio cyfyngiadau'n galluogi busnesau i ailagor eu mannau awyr agored o fewn y rheolau trwyddedu presennol.

"Os bydd amgylchiadau'n parhau i fod yn ffafriol a gan ddibynnu ar adolygiad yr wythnos nesaf o'r canllawiau," meddai.

"Bydd ailagor mannau dan do yn cael ei ystyried yn ddiweddarach. Bydd yn dibynnu ar lwyddiant ailagor y mannau awyr agored; y sefyllfa gyda coronafeirws yng Nghymru a mesurau eraill y mae busnesau yn eu gweithredu i leihau'r risg o ledu'r haint.

"Bydd angen camau fel archebu o flaen llaw, gwasanaeth bwrdd yn unig, a hyd yn oed y defnydd o apiau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o dafarndai JD Wetherspoon yng Nghaerdydd ar y noson olaf cyn y cyfnod cloi

Bydd gweinidog y cabinet Eluned Morgan yn rhoi mwy o fanylion yng nghynhadledd ddyddiol y llywodraeth yn ddiweddarach.

Yn ôl cofnodion cyfarfod rhwng y llywodraeth a swyddogion llywodraeth leol sydd wedi dod i law BBC Cymru, roedd 6 a 17 Gorffennaf hefyd wedi eu hystyried fel dyddiadau ailagor.

Mae'r cofnodion hefyd yn dangos mesurau eraill sydd dan ystyriaeth:

  • Mae'r llywodraeth yn "edrych ar" ganiatáu rheol pellter o un fetr ar gyfer ardaloedd lletygarwch yn yr awyr agored;

  • Fe allai busnesau wneud cais am "drwydded palmant" er mwyn gosod dodrefn a gweini cwsmeriaid ar balmentydd;

  • Fe allai cwsmeriaid gael "amser trigo" i aros am 1 awr a 45 munud;

  • Byddai ardaloedd chwarae i blant yn parhau ar gau;

  • Mae pryderon am dafarndai a bwytai mewn ardaloedd preswyl. Gallai fod angen mwy o swyddogion diogelwch a chamerâu cylch cyfyng.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r llywodraeth gan ddweud y dylai'r amserlen ailagor fod wedi cael ei gosod yn gynharach.

"Mae rhoi llai na thair wythnos i'r sector baratoi i ailagor yn dangos pa mor broblemus yw agwedd ad-hoc bresennol y llywodraeth tuag at lacio cyfyngiadau," meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Helen Mary Jones AS.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr ymateb i Covid-19, Darren Millar AS wedi galw hefyd am lacio'r rheol dwy fetr: "Yn anffodus, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn llusgo'u traed ac yn gweithredu yn rhy hwyr ar gyfer rhai busnesau sydd eisoes wedi cael gwared â'u staff a chau yn barhaol oherwydd yr ansicrwydd.

"Heb amserlen glir ar gyfer ailagor tu fewn hefyd, rwy'n rhagweld y bydd eraill yn gwneud yr un fath."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o dafarndai'r brifddinas ar gau yn ystod y cyfnod clo

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur TUC Cymru, Shavannah Taj ei bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru.

"Mae hwn yn ailagor graddol, a dyna pam ei fod yn ddull gofalus - mae'r diwydiant yn mynd i gael arweiniad priodol," meddai.

"Cyn belled ag y mae toiledau yn y cwestiwn, bydd yn rhaid cael trefn glir a glanweithiol iawn, bydd yn rhaid cael arweiniad priodol ar sut mae hynny'n cael ei wneud, y cynhyrchion cywir i'w defnyddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Gam wrth gam mae'r cyfyngiadau'n cael eu llacio'n araf yng Nghymru.

"Mae llawer o fusnesau yn y diwydiant arlwyo, sydd yn cyfrannu cymaint at yr economi leol, yn mynd i groesawu'r eglurder yma gan Lywodraeth Cymru o ran y camau posib nesaf, os yw nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i ostwng.

"Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ailagor y diwydiant lletygarwch yn ddiogel ac araf yma yng Nghymru."