Cymru i herio Lloegr yn Wembley yn yr hydref
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Stadiwm Wembley ar 8 Hydref i wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar.
Cyn hynny, bydd carfan Ryan Giggs yn dychwelyd i'r cae am y tro cyntaf mewn 10 mis oherwydd pandemig Covid-19, ar gyfer ymgyrch 2020/21 Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae Cymru yng Ngrŵp B Cynghrair y Cenhedloedd gyda Bwlgaria, Y Ffindir a Gweriniaeth Iwerddon.
Cafodd gemau cyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Awstria eu canslo ym mis Mawrth oherwydd coronafeirws.
Yn unol â chanllawiau presennol y llywodraeth, ar hyn o bryd bydd pob gêm yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywed CBDC fod y gêm yn erbyn Lloegr yn un o ddwy gêm ryngwladol ychwanegol ym mis Hydref a Thachwedd, ond does dim cadarnhad o'r gêm arall eto.
Y tro diwethaf i Gymru ymweld â Wembley oedd yn 2011 ar gyfer gêm ragbrofol Euro 2012, dolen allanol ble sgoriodd Ashley Young yr unig gôl yn y gêm. Colli wnaethon nhw o 1-0.
Colli oedd hanes Cymru y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd hefyd, ac hynny o 2-1 yn Euro 2016.
Bydd tîm Ryan Giggs yn manteisio ar y gêm hon i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2020 yr haf nesaf ble bydd y garfan yn gobeithio dychwelyd i Wembley ar gyfer cymalau olaf y gystadleuaeth.
Gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn 2020
Dydd Iau, 3 Medi - Y Ffindir v Cymru (19:45)
Dydd Sul, 6 Medi - Cymru v Bwlgaria (14:00)
Dydd Sul, 11 Hydref - Gweriniaeth Iwerddon v Cymru (14:00)
Dydd Mercher, 14 Hydref - Bwlgaria v Cymru (19:45)
Dydd Sul, 15 Tachwedd - Cymru v Gweriniaeth Iwerddon (17:00)
Dydd Mercher, 18 Tachwedd - Cymru v Y Ffindir (19:45)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2016