Cwymp enfawr yn nifer y swyddi gwag sydd ar gael

  • Cyhoeddwyd
Gwaith

Mae nifer y swyddi gwag sydd ar gael yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y tri mis diwethaf.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) mae'r ffigwr ar ei isaf ers iddyn nhw ddechrau cadw cofnodion o'r fath yn 2001.

Mae'r ffigwr hyd yn oed yn waeth nag yn ystod yr argyfwng ariannol byd-eang yn 2008-2009.

Bu gostyngiad o 55% yn nifer y swyddi gwag yng Nghymru o'i gymharu a'r un cyfnod yn 2019, yn ôl gwefan CV-Library.

1,000 yn ymgeisio mewn mis

Yng Nghaerdydd roedd cynnydd o 94% yn y nifer oedd yn ymgeisio am bob swydd wag.

Mae disgwyl i fwyty Marco Pierre White Steakhouse and Grill yn Abertawe agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn yr wythnosau nesaf, a dywedodd y rheolwr, Rhys Andrews, eu bod wedi cael dros 1,000 o geisiadau am swyddi yn ystod y mis diwethaf.

"Mae'r rhain yn amrywio o swyddi uwch i swyddi bar a gweini byrddau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Andrews o fwyty Marco Pierre White yn Abertawe

"Mae ein rheolwr bwyd a diod wedi bod yn andros o brysur yn mynd drwy'r ceisiadau i gyd."

Yn ôl CV-Library bu gostyngiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y swyddi gwag ar draws Cymru:

Bangor

  • Swyddi i lawr 56.5% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 52.5% chwarter ar ôl chwarter.

Caerdydd

  • Swyddi i lawr 57.4% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 58.5% chwarter ar ôl chwarter.

Casnewydd

  • Swyddi i lawr 61.1% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 58.2% chwarter ar ôl chwarter.

Llanelwy

  • Swyddi i lawr 54.8% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 50% chwarter ar ôl chwarter.

Abertawe

  • Swyddi i lawr 51.4% flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 51.9% chwarter ar ôl chwarter.