Y Bencampwriaeth: Reading 1-4 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
BrewsterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Brewster sgoriodd gôl gynta'r gêm gydag ergyd wych o 30 llath

Mae Abertawe wedi hawlio eu lle yng ngemau ail gyfle y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw drechu Reading ar noson llawn cyffro nos Fercher.

Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi 17 munud, gydag ergyd wych o 30 llath gan Rhian Brewster yn drech na'r golwr Rafael Cabral.

Cafwyd hwb arall i obeithion yr ymwelwyr wedi i'r ymosodwr Yakou Méïté weld cerdyn coch i Reading am roi ei ddwylo yn wyneb Mike van der Hoorn wedi 40 munud.

Ond er eu bod i lawr i 10 chwaraewr, llwyddodd y tîm cartref i ennill cic o'r smotyn ychydig funudau'n ddiweddarach yn dilyn trosedd gan Jake Bidwell.

Fe sgoriodd George Puscas o'r smotyn i'w gwneud yn 1-1 ar hanner amser.

Aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wedi 66 munud, gyda'r eilydd Wayne Routledge yn codi'r bêl dros Cabral i gefn y rhwyd.

Llwyddodd yr Elyrch i ychwanegu trydedd gôl gyda phum munud yn weddill wrth i eilydd arall, y Cymro ifanc Liam Cullen, sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb.

Ac yn yr eiliadau olaf fe sgoriodd Routledge ei ail gôl, gan benio croesiad Conor Gallagher i gefn y rhwyd.

Ar yr un pryd, llwyddodd Stoke i drechu Nottingham Forest o 4-1 hefyd, gan olygu bod Abertawe yn gorffen yn y chweched safle oherwydd bod ganddyn nhw wahaniaeth goliau gwell na Forest.

Bydd Yr Elyrch yn herio Brentford yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

Fan arall yn y Bencampwriaeth nos Fercher, llwyddodd Caerdydd i orffen yn bumed yn y tabl, gan sicrhau bod dau dîm o Gymru yn rhan o'r gemau ail gyfle.