Tymor Morgannwg i ddechrau yng Ngwlad yr Haf

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Chris Cooke yn rhannu'r gapteniaeth gyda David Lloyd i Forgannwg y tymor hwn

Fe fydd tymor criced Morgannwg yn dechrau gyda gêm yn erbyn Gwlad yr Haf ar ddydd Sadwrn, 1 Awst a bydd tair o'u pum gêm yn y bencampwriaeth oddi cartref.

Fe wnaeth hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, dreulio tair blynedd wrth y llyw gyda Gwlad yr Haf cyn ailymuno gyda Morgannwg.

Bydd ei dîm hefyd yn wynebu Siroedd Caerwrangon a Northants oddi cartref tra'n croesawu Siroedd Caerloyw a Warwick i Gymru.

Roedd pedwar o'r timau fydd Morgannwg yn eu herio i fod yn adran gyntaf y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Gorffennodd Morgannwg yn bedwerydd yn Adran 2 yn 2019, ond mae'r 18 sir wedi eu rhannu yn ddaearyddol eleni er mwyn cyfyngu ar y teithio oherwydd coronafeirws.

Dywedodd cyfarwyddwr criced Morgannwg, Mark Wallace: "Mae Pencampwriaeth y Siroedd yn edrych yn wahanol iawn gyda'r gemau rhanbarthol.

"Mae'r drefn yn anodd i ni. Mae Gwlad yr Haf yn un o'r timau cryfaf yn Adran 1, felly mae'n ddechrau heriol, ond mae'r cyfle i chwarae unrhyw fath o griced yn wych, oherwydd doedd hynny ddim yn edrych yn debygol yn gynharach eleni."

Er bod y siroedd wedi'u rhannu yn dri grŵp, dim ond dau dîm fydd yn mynd ymlaen i rownd derfynol Pencampwriaeth y Siroedd.

Ychwanegodd Wallace: "Gan bod cymaint o bwyntiau ar gael am ennill gemau, rwy'n credu y gwelwn ni ddigon o griced ymosodol.

"Bydd dechrau tymor yn Awst yn hytrach nag Ebrill yn gymorth i'r batwyr, gyda mwy o rediadau'n cael eu sgorio."

Y disgwyl yw y bydd Morgannwg yn wynebu yr un pum clwb - ond yn eu herio gartref ac oddi cartref - yn y gystadleuaeth T20 fydd yn dechrau ddiwedd Awst.

Mae Morgannwg yn dal i ddisgwyl clywed a fydd eu batiwr Colin Ingram yn gallu ymuno gyda nhw ar gyfer y T20 gan bod cyfyngiadau llym ar deithio yn ei wlad yntau, De Affrica.

Does dim sicrwydd eto a fydd cefnogwyr yn cael mynd i weld y criced, ond mae Llywodraeth y DU yn treialu rhai gemau cyfeillgar yn Surrey a Sir Warwick gyda nifer cyfyngedig o gefnogwyr yn cael mynediad.