Newidiadau wrth i fusnesau Biwmares brysuro

  • Cyhoeddwyd
Ardal pier a ffrynt Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Fel yn sawl ardal wyliau arall yng Nghymru, mae ymwelwyr yn dechrau dychwelyd i Fiwmares

Wrth i ardaloedd ar draws Cymru barhau i addasu wrth ddod allan o'r cyfyngiadau coronafeirws, mae'r gwahaniaeth mewn ambell le wedi bod yn fwy trawiadol.

Ymhlith y llefydd i weld y cyferbyniad mwya', o bosib, mae tre' hanesyddol Biwmares - sy'n denu ymwelwyr drwy'r flwyddyn, ond yn enwedig yn yr haf.

O'r castell i'r carchar, a'r golygfeydd godidog draw am Eryri - dydy Biwmares ddim yn brin o atyniadau i ymwelwyr. Ac fel arfer byddai'r dre' wedi bod yn ferw o bobl ers misoedd.

Mae wedi prysuro'n arw ers i'r cyfyngiadau teithio gael eu llacio - ond petaech chi yno rhai wythnosau'n ôl, yng nghanol y clo mawr, roedd y cyferbyniad yn amlwg a distawrwydd y dre' yn drawiadol.

Fel ardaloedd twristaidd eraill, mae'r busnesau lleol wedi colli cyfnod helaeth o'r haf - ac mae hynny wedi bod yn sialens i nifer.

Disgrifiad o’r llun,

Dau berson ar y tro sy'n cael mynd i siop hufen ia Red Boat

Fel yr esbonia Gwenda Travis, o siop hufen ia Red Boat ar y stryd fawr, mae'r ffaith eu bod wedi methu agor am gyfnod mor helaeth o'r haf wedi bod yn ergyd drom i'r busnes.

"Da ni'n gwneud lot o'n pres ni o'r amser gwyliau," meddai, "ond dros yr wythnosau diwetha' mae wedi rili pigo fyny, felly gobeithio fydd o'n cario 'mlaen."

Ond mae hefyd yn teimlo nad ydy pawb yn parchu'r rheolau ymbellhau cymdeithasol ers i bethau brysuro.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod lot o bobl ar eu gwyliau, a does ganddyn nhw ddim llawer o ots rili. Ond 'da ni'n bod yn ofalus yma - 'mond yn gadael dau berson yn y siop ar y tro."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid gwneud apwyntiad o flaen llaw rŵan i drin gwallt, medd Delyth Lazseck

Mae Delyth Lazseck wedi bod yn trin gwallt ers dros 43 o flynyddoedd ac wedi symud ei busnes i Fiwmares ers rhai blynyddoedd.

Fel arfer dros yr haf, byddai ymwelwyr yn galw heibio heb apwyntiad - ond mae eleni'n amlwg yn wahanol.

"Fedrith pobl ond gwneud eu gwalltiau rŵan wrth wneud apwyntiad o flaen llaw," meddai.

"Da ni'n gorfod gadael 20 munud rhwng pawb er mwyn llnau, felly am bod ni'n rhedeg yn hwyrach dydan ni ddim yn ffitio cymaint o bobl i mewn.

"Dwi'n meddwl bod ni rhyw bump i chwech cwsmer i lawr y diwrnod."

Ond mae'n falch o weld y dre'n prysuro eto ar ôl wythnosau tawel iawn.

Dywedodd: "Mae 'na lot mwy o bobl yma yn yr wythnosau diwetha'. Mae'n neis iawn gweld y bobl, yr ymwelwyr yn dod yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Hughes a'i chydweithwyr yn Central Bakery wedi cario 'mlaen i weithio drwy'r cyfnod clo

Un busnes sydd wedi llwyddo i gadw'n brysur drwy'r cyfnod ydy Central Bakery ar Stryd Margaret, fel yr esbonia un o'u staff, Linda Hughes.

"Da ni 'di aros yn agor drwy'r amser," meddai, "Wnaethon ni ddim cau. 'Da ni 'di bod yn gwneud deliveries hefyd i bobl leol ac maen nhw 'di bod yn hapus efo hynny, achos mae 'na lot ohonyn nhw wedi methu mynd allan.

"Mae wedi prysuro'n ofnadwy yn y dre rŵan de - pobl o bob man. Maen nhw jyst yn ciwio lawr y lôn, wedyn mae'n mynd yn fwy prysur a prysur a prysur."

Disgrifiad o’r llun,

Mae masnachu ar-lein wedi cadw siop Janet Bell i fynd yn ddiweddar, medd Danielle Pritchard

Lawr y lôn, mae busnes arall wedi bod yn brysur er gwaetha'r sefyllfa. Mae siop Janet Bell yn gwerthu ei darluniau hi ac yn boblogaidd fel lle i brynu anrhegion, ond mae'r cwmni wedi bod yn masnachu ar y we yn ystod y cyfyngiadau.

Meddai un o'r staff, Danielle Pritchard: "'Da ni wedi bod yn lwcus, mae 'di bod yn brysur iawn dweud gwir. Mae'r we wedi mynd â ni drwy cyfnod lockdown.

"Ond mae'n braf cael y drysau ar agor eto rŵan a gweld pawb yn dod 'nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n cael ei hadolygu'r gyson, medd y Cynghorydd Alun Roberts

"Da ni'n adolygu'r sefyllfa ac yn dysgu fesul diwrnod i weld be' sy'n gweithio a be' sy' ddim," meddai'r Cynghorydd Alun Roberts, cynrychiolydd ward Seiriol ar Gyngor Môn.

"Mae'r rheolau yn wahanol yn Lloegr, Yr Alban ac yma yng Nghymru, ac mae angen tynnu sylw at y ffaith bod hi'n ddau fetr o ymbellhau yma. Oherwydd hynny, wedi adolygu, 'da ni'n rhoi posteri ychwanegol rŵan i dynnu sylw pobl at y rheolau.

"O ran dysgu oddi wrth lefydd eraill - 'da ni 'di gweld be' sy' 'di digwydd yng Ngheredigion, er enghraifft, lle maen nhw 'di cau y stryd fawr. Doedd hynny ddim yn bosib yma, a 'doedd dim croeso iddo fo. Mae'r lôn sy'n mynd drwy'r stryd fawr yn lôn sy'n cysylltu un rhan o Fôn efo gweddill yr ynys. Cyfamod ydy o i ddiogelu busnesau ond, ar yr un pryd, diogelu pobl."

Mae rhai atyniadau ym Miwmares wedi ailagor ond nid pob un. Mae'r castell yn gorfod aros ynghau oherwydd y byddai'n anodd sicrhau digon o ofod ar safle sy'n gyfyng. Ond mae 'na newyddion da i ymwelwyr a busnesau lleol mewn rhan arall o'r dre..

"Fe fydd y pier yn ailagor ddydd Sadwrn yma," meddai'r Cynghorydd Roberts, "fydd yn caniatáu i fusnesau fanno, fel y cwmnïau cychod pleser, ailgychwyn eu busnes. Dwi'n croesawu bod hyn yn mynd i ddigwydd ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cydweithredu fel bod ni'n gallu gwneud hyn mewn ffordd ddiogel."

Wrth gerdded o gwmpas Biwmares, mae ôl coronafeirws yn amlwg mewn sawl ffordd - arwyddion pellter cymdeithasol, marciau traed ar y stryd i atgoffa pobl i gadw ar wahân, systemau unffordd a mannau cerdded lletach.

Ond mewn tre' mor hanesyddol a hardd â Biwmares, mae'n teimlo'n od rhywsut.

Ar y llaw arall, wrth i'r dre' ailddeffro ac edrych tua'r dyfodol, mae'n bris sy'n rhaid ei dalu am y tro i sicrhau diogelwch pawb.