Galw am flaenoriaethu cwmnïau uwch weithgynhyrchu
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o flaenoriaeth i gwmnïau uwch weithgynhyrchu wrth geisio helpu'r economi dros y misoedd nesaf, yn ôl cynrychiolwyr o'r sector yn y gogledd ddwyrain.
Mae'r ardal wedi gweld bygythiad i nifer sylweddol o swyddi ers y cyfnod clo gyda 1,435 o dan fygythiad yn Airbus ym Mrychdyn a 240 yn Magellan Aerospace ger Wrecsam.
Gyda'r sector hamdden a thwristiaeth wedi cael cryn sylw gan lywodraethau yn ystod y pandemig, mae rhai yn credu bod angen yr un pwyslais nawr ar uwch weithgynhyrchu.
'Methu colli'r arbenigedd'
Yn ôl Cadeirydd Ffederasiwn Busnes Glannau Dyfrdwy, Askar Sheibani, mae'n rhaid i'r sector fod yn flaenoriaeth i lywodraethau.
"Mae angen i'r ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain ail feddwl eu strategaeth," meddai.
"Fe allwn ni ddod yn ôl yn gryf yn y sector lletygarwch a thwristiaeth yn weddol gyflym, ond os anghofiwn ni am uwch weithgynhyrchu, os collwn ni nhw, fe fydd hynny'n niweidio economi'r gogledd yn fawr iawn."
Fis Tachwedd 2019, fe agorodd Llywodraeth Cymru ganolfan i ddatblygu uwch weithgynhyrchu ar Lannau Dyfrdwy (AMRC Cymru).
Yn ôl cadeirydd y corff sy'n ei arolygu, David Jones, mae'n rhaid gwarchod y sector.
"Mae'n sector sy'n fyd eang, ddim yn dymhorol ac yn talu'n dda iawn," meddai.
"Mae'n sector sydd gyda ni arbenigedd ynddo fo ac allwn ni ddim colli hwnna."
Trafod y camau nesaf
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "uwch weithgynhyrchu'n rhan o wead gogledd ddwyrain Cymru".
"Mae ein hymroddiad i'r sector yn amlwg - rydym wedi buddsoddi £20m yn AMRC Cymru ym Mrychdyn," meddai.
"Bu'r Bwrdd Ymgynghorol Lleol yn cwrdd yr wythnos hon i drafod ystod o gyfleoedd gweithgynhyrchu o werth mawr, yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Canolfan Ymchwil Uwch Dechnoleg, allai weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi cwmnïau awyrofod ac amddiffyn bach a chanolig yn yr ardal.
"Byddwn yn cynnal cynhadledd ar weithgynhyrchu gyda phartneriaid allweddol yr wythnos nesaf i amlinellu ffordd ymlaen i'r sector.
"Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu dyfodol y sector pwysig hwn i Gymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod gan Gymru "ddiwydiant awyrofod anhygoel" ac y byddan nhw'n parhau i weithio gyda'r sector "i sicrhau ei fod yn dod yn ôl ar ei draed".
"Mae Llywodraeth y DU yn parhau i helpu'r sectorau awyrofod a hedfan gydag £8.5bn mewn grantiau, benthyciadau a gwarantau allforio," meddai.
"Trwy fuddsoddi mewn ymchwil rydym hefyd yn datblygu technoleg newydd i wneud hedfan yn fwy diogel a mwy gwyrdd tra'n creu swyddi gwyrdd newydd, fydd yn talu'n dda am ddegawdau i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2019