'Dim ond cau maes awyr fyddai wedi atal hediadau'
- Cyhoeddwyd

Fe ddywedodd cwmni Ryanair wrth Lywodraeth Cymru y byddai'n rhaid cau Maes Awyr Caerdydd os oedd y weinyddiaeth eisiau atal ei hediadau rhyngwladol ddechrau Gorffennaf.
Apeliodd Llywodraeth Cymru ar y cwmni i ganslo teithiau o Gaerdydd i Sbaen a Phortiwgal ar 3 Gorffennaf oherwydd roedd y cyngor i bobl aros yn lleol yn dal mewn grym.
Ond atebodd y cwmni y byddai'r hediadau'n mynd yn eu blaenau "oni bai fod Llywodraeth Cymru'n dymuno'u gwahardd".
Er gwaethaf y cyngor swyddogol, fe deithiodd awyrennau Ryanair i Malaga a Faro ar 3 Gorffennaf, dridiau cyn i bobl yng Nghymru gael ailddechrau teithio'n bellach na phum milltir o'u cartrefi.
'Annog pobl i dorri'r rheolau'
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth i weld yr holl ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru â Ryanair a Maes Awyr Caerdydd, mae'r weinyddiaeth wedi rhyddhau dau e-bost. Cafodd y ddau eu danfon ar 30 Mehefin - dridiau cyn yr hediadau dan sylw.
Mewn ebost at Ryanair, ysgrifennodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AS: "Trwy weithredu'r gwasanaethau hyn, rwy'n gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi y dylai'r teithwyr ar eich gwasanaethau ddydd Gwener ond fod yn gwneud hynny os yw'r daith yn hanfodol ac yn gyfreithiol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n berchen ar Faes Awyr Caerdydd ers 2013
"Wrth imi ysgrifennu, mae fy nghyd-weinidogion a finnau'n bwriadu llacio'r cyfyngiadau hynny ymhellach ar 6 Gorffennaf, a ddylai, os bydd yr amodau'n ei ganiatáu, alluogi teithio ar gyfer gwyliau o'r dyddiad hwnnw.
"O wybod fod ymadawiad eich hediadau ddydd Gwener yn creu risg o annog pobl i dorri'r rheolau 'aros yn lleol' nid wyf yn meddwl y dylai'r hediadau yma fynd yn eu blaenau.
"Byddwn yn ddiolchgar petaech yn ystyried canslo eich teithiau tan ddydd Llun, 6 Gorffennaf."
Osgoi 'cosb ddiangen hawliadau iawndal'
Yn ei ymateb yntau, yr un diwrnod, dywedodd Prif Weithredwr Ryanair, Eddie Wilson: "Bydd ein hediadau o Malaga a Faro i Gaerdydd ddydd Gwener 3 Gorffennaf yn digwydd oni bai bod Llywodraeth Cymru'n cau Maes Awyr Caerdydd i hediadau rhyngwladol.
"Mae nifer sylweddol o ddinasyddion Cymru sydd eisoes wedi trefnu i deithio adref o Malaga a Faro, ynghyd â nifer fach o ddinasyddion Sbaen a Phortiwgal sy'n teithio ar yr hediadau [o Gaerdydd].
"Gan fod gyda ni nifer sylweddol o ragarchebion ar yr hediadau hyn, ni allwn eu canslo gyda llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd heb ddioddef cosb ddiangen hawliadau iawndal, felly oni bai bod Llywodraeth Cymru'n dymuno gwahardd yr hediadau yma, gellwch fod yn hollol sicr y bydd yr hediadau yma'n cydymffurfio'n llawn â'r holl fesurau iechyd Covid-19."
Adeg yr hediadau dan sylw, fe wnaeth yr AS Ceidwadol Andrew RT Davies gyhuddo Llywodraeth Cymru o "feio Ryanair a rheolwyr Maes Awyr Caerdydd wedi'r embaras o gael eich dala mas".
Ychwanegodd: "Rydych chi wedi prynu'r maes awyr, ei ariannu, rydych chi hyd yn oed yn rhedeg y wlad, a gallech chi stopio hyn petaech chi wirioneddol eisiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020