Crasfa i Forgannwg yng Nghwpan Bob Willis

  • Cyhoeddwyd
Tom Abell yn sgorio gyda Chris Cooke o Forgannwg yn edrychFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Gwlad yr Haf, Tom Abell, a sgoriodd 119, a phrif sgoriwr Morgannwg, Chris Cooke

Collodd tîm criced Morgannwg yn drwm yn eu gornest ym mhencampwriaeth Tlws Bob Willis yn erbyn Gwlad yr Haf.

Roedd eu gwrthwynebwyr wedi gosod targed anferth i Forgannwg yn eu gêm Grŵp Canolig, ac yn y diwedd fe gollodd y Cymry o 289 o rediadau.

A hwythau'n chwarae gartref yn Taunton, sgoriodd Gwlad yr Haf 296 yn eu batiad cyntaf a caewyd eu hail fatiad ar 290 am 8 wiced.

Cafodd Morgannwg eu cyfyngu i 131 yn y batiad cyntaf. Yn yr ail roedden nhw ar 29-3 ar un adeg, ond wedi sgôr o 67 heb fod allan gan Chris Cooke, aeth y gêm i'r diwrnod olaf.

Ond profodd y targed o 456 i ennill ar y diwrnod olaf yn amhosib i'r ymwelwyr, a roeddynt i gyd allan am 166.

Enillodd Gwlad yr Haf 21 pwynt, tra roedd rhaid i Forgannwg fodloni ar dri phwynt yn unig.

Cymerdodd Craig Overton saith wiced i Wlad yr Haf, a sgoriodd Tom Abell 119.

Mae Pencampwriaeth y Siroedd yn dra wahanol eleni gyda'r 18 sir wedi eu rhannu'n ddaearyddol er mwyn cyfyngu ar deithio oherwydd coronafeirws