Cwmni arwerthwyr yn gwadu fod Mart Caerfyrddin wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Mart Caerfyrddin gwag
Disgrifiad o’r llun,

Mart Caerfyrddin yn wag ddydd Mercher ar ddiwrnod arferol y prynu a'r gwerthu

Mae BJP, y cwmni sy'n gyfrifol am Mart Caerfyrddin yn gwadu bod y safle wedi cau, er nad oedd ar agor ddydd Mercher.

Yn y cyfamser mae Cyngor Sir Gâr, sy'n berchen ar y safle, wedi cadarnhau nad ydynt wedi adnewyddu les BJP ar gyfer y safle.

Dywedodd y cynghorydd David Jenkins, aelod o fwrdd gweithredol Sir Gâr: "Gallwn ond cadarnhau nad yw'r les gyda BJP wedi ei adnewyddu, does gennym ddim sylw pellach i'w wneud."

Ond mae ffermwyr lleol yn anfodlon ers tro gyda BJP, gan honni nad ydyn nhw'n cael eu talu ar ôl gwerthu anifeiliaid yno.

Yn ôl un o'r cyfarwyddwyr, Jonathan Morgan fe fydd ffermwyr yn cael eu talu.

Ychwanegodd fod staff yn y mart bore Mercher er bod y safle ar gau i'r cyhoedd, a bod y cwmni'n mynd trwy gyfnod o ailstrwythuro ar ôl i gyfarwyddwr arall ymddiswyddo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Walters yn dweud bod ffermwyr yn mynd a'u stoc i gael eu gwerthu i lefydd eraill gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr

Doedd y ffaith fod y safle heb agor yn ôl yr arfer ddydd Mercher ddim yn sioc i'r ffermwr llaeth o Ffynnonddrain, Brian Walters.

"Ni'n gweld yr arwyddion ers mishoedd, lle mae stoc mynd yn llai yna, a ffermwyr yn mynd i lefydd eraill i werthu stoc," meddai.

"Os bydden ni'n mynd â stoc yna ar hyn, gwedwch, y flwyddyn ddwytha, bydden ni'n arfer cael ein talu yr w'thnos ar ôl 'ny. Ond os nag ow'n ni'n casglu'r arian, o'dd yr arian falle'n hala mis cyn dod."

Dros y ffin

Dywedodd fod llawer o ffermwyr lleol yn mynd â'u da byw bellach i Hendy-gwyn ar Daf, Castell Newydd Emlyn neu Lanybydder.

"Be sy'n poeni fi mwy na hynny hefyd yw bod gwartheg godro yn mynd dros y ffin i gael eu gwerthu ym marchnadoedd yn Lloegr.

"Ma' hwnnw'n drist iawn bod nhw'n gorfod mynd â stoc mas o gorllewin Cymru lle mae mart o safon 'da ni yn Gaerfyrddin yn sefyll yn segur."

Dywed BJP eu bod yn gobeithio datrys y sefyllfa er mwyn medru ailagor cyn gynted â phosibl.

Ond mae nifer o ffermwyr yn dweud na fyddan nhw'n dychwelyd tra bo'r cwmni'n rhedeg y mart.

"Does dim ffydd 'da neb nawr yn y cwmni sydd yna yn bresennol," meddai Brian Walters.

"Mae'r stoc wedi mynd i lefydd eraill i gael eu gwerthu nawr, a bydd yn anodd iawn i rywun ddod yn ôl â stoc yna."