Cooke yn achub gêm gyfartal i Forgannwg yng Nghaerwrangon

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Chris Cooke sgorio 74 o rediadau cyn cael ei fowlio allan gan Jake Libby

Llwyddodd y capten Chris Cooke i fatio am ran helaeth o'r prynhawn ar y diwrnod olaf er mwyn sicrhau gêm gyfartal i Forgannwg yng Nghaerwrangon yn Nhlws Bob Willis.

Fe ddechreuodd Sir Gaerwrangon y diwrnod olaf â mantais o 179 o rediadau, ar sgôr o 98-2.

Llwyddon nhw i gyrraedd sgôr o 276-6 cyn dod â'u batiad i ben toc ar ôl cinio, gan obeithio bowlio Morgannwg allan cyn diwedd y dydd.

Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'w hail fatiad gan golli tair wiced gynnar, cyn i Billy Root a Cooke sefydlogi'r llong.

Llwyddodd y capten i fynd yn ei flaen i gael 74 o rediadau cyn cael ei fowlio allan gan Jake Libby, ond roedd gan Morgannwg dair wiced yn weddill ar sgôr o 141-7 ar ddiwedd y diwrnod er mwyn sicrhau gêm gyfartal.

Sir Gaerwrangon v Morgannwg - sgôr terfynol

Sir Gaerwrangon - batiad cyntaf = 455 am 8

ail fatiad = 276 am 6

Morgannwg - batiad cyntaf = 374

ail fatiad = 141 am 7

Gêm gyfartal