Rhybudd stormydd mellt a tharanau yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Mellten

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yn parhau mewn grym dros Gymru ddydd Iau.

Daeth rhybudd oren i rym gan y Swyddfa Dywydd nos Fercher, ac fe welodd llawer o Gymru law trwm a stormydd.

Cafodd tân bychan ei ddechrau mewn tŷ yn Wrecsam ar ôl cael ei daro gan fellten, ac fe gafodd criwiau eu galw i achosion o lifogydd yn yr ardal hefyd.

Cafodd criwiau tân eu galw i lifogydd mewn cartrefi yn Rhaeadr, Powys nos Fercher, yn ogystal ag ambell ddigwyddiad ynysig arall dros y canolbarth.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod difrod i adeiladau, effaith ar gyflenwadau trydan a llifogydd sydyn yn bosib yn sgil y rhybudd diweddaraf.

Mae rhybuddion am stormydd posib yn parhau nes dydd Llun, 17 Awst.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth stormydd trymion arwain at lifogydd yn Aberystwyth a chyflenwadau trydan yn cael eu colli mewn sawl ardal arall.