Abertawe yn arwyddo'r chwaraewr canol cae, Korey Smith
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Korey Smith ymddangos 196 gwaith dros Bristol City mewn chwe thymor
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo cyn-gapten Bristol City, Korey Smith ar ôl i'w gytundeb ddod i ben yn Ashton Gate.
Fe ddaeth cytundeb y chwaraewr canol cae, 29, adael Bristol City yr wythnos hon yn dilyn chwe thymor gyda'r clwb.
Mae'r Elyrch hefyd yn gobeithio ailarwyddo'r golwr Freddie Woodman ar fenthyg gan Newcastle United yn y dyddiau nesaf.
Fe wnaeth Woodman, 23, chwarae 43 gwaith dros Abertawe y tymor diwethaf cyn cael ei anafu cyn y gemau ail gyfle.

Mae disgwyl i Freddie Woodman ailymuno â'r Elyrch ar fenthyg yn y dyddiau nesaf