Galw am gael gwared ar stondinwyr Dinbych-y-pysgod

  • Cyhoeddwyd
Stondinau
Disgrifiad o’r llun,

Gan fod y stondinau yn cynnig gwasanaethau yn hytrach na nwyddau, does dim rheolau i'w hatal

Mae perchnogion busnes yn Ninbych-y-pysgod yn ymgyrchu i gael gwared ar stondinwyr dros dro sy'n dod i'r dref bob haf.

Maen nhw'n mynnu bod y niferoedd yn cynyddu'n ormodol a bod nifer ohonyn nhw ddim yn dilyn y canllawiau coronafeirws presennol. 

Ond mae Cyngor Sir Penfro yn dweud mai bach iawn oedd yr ymateb i ymgynghoriad diweddar yn gofyn a oes angen newid yn y gyfraith er mwyn gwahardd y stondinwyr.

Mae'r stondinwyr yn mynnu eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith a bod eu gwasanaethau fel plethu gwallt a thatŵs dros dro yn boblogaidd.

'Dim lle yma iddyn nhw'

Mae Michael Williams, cynghorydd sir sy'n cynrychioli Gogledd Dinbych-y-pysgod, yn dweud bod angen mynd i'r afael â'r broblem o fasnachu ar y stryd.

"Dy'n nhw jest ddim yn cyfleu delwedd dda o'r dre' - mae 'na fusnesau o safon uchel yma nawr a ma' adeiladau hanesyddol, cofrestredig o'n cwmpas ni ac wedyn yn y canol, mae'r stondinau yma sy' o safon isel," meddai.

"Maen nhw'n tynnu oddi ar harddwch y dre' ac ardal o dreftadaeth bwysig.

"Dwi ishe eu gweld nhw'n cael eu gwahardd - does dim lle yma iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Michael Williams nad yw'r stondinwyr yn "cyfleu delwedd dda o'r dre'"

Mae nifer o berchnogion busnes yn y dre' wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod am weld y math yma o fasnach stryd yn diflannu.

Maen nhw'n dweud eu bod yn anharddu'r ardal a bod nifer o'r stondinwyr ddim yn dilyn y canllawiau priodol ar gyfer iechyd a diogelwch yn sgil Covid-19.

'Edrych yn hyll'

Dywedodd un perchennog busnes a oedd am aros yn ddienw: "Ma' hyn wedi bod yn broblem yn y blynyddoedd d'wetha ond mae'r niferoedd bendant yn cynyddu.

"Eleni hefyd, ynghanol pandemig, ma' fe hefyd yn bryder o ran iechyd a diogelwch.

"Ry'n ni wedi gorfod buddsoddi mewn offer ac wedi addasu ein siopau ac ati er mwyn dilyn y rheolau, tra bod rhain yn gallu cario 'mlaen heb unrhyw fesurau ychwanegol.

"Mae'r stondinau yn edrych yn hyll hefyd - ar adeg pan ry'n ni wedi rhoi tipyn o ymdrech mewn i greu tref hardd iawn er mwyn denu ymwelwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kristyna Pavlovicova bod stondinwyr yn gwneud "popeth ni'n gallu er mwyn aros yn ddiogel"

Ond mae'r stondinwyr yn mynnu bod ganddynt hawl i fod ar strydoedd y dre' a'u bod yn gweithredu o fewn y gyfraith.

Yn ôl Kristyna Pavlovicova, sy'n gweithio ar stondin tatŵs dros dro, mae 'na alw mawr am eu gwasanaeth ac mae hi a'i chydweithwyr oll yn dilyn y rheolau iechyd a diogelwch.

"Ni ddim yn niweidio'r economi leol achos ni'n byw yma am ddeufis - ni'n siopa yma, ni'n bwyta yma," meddai.

"Mae gan unrhyw un hawl i fod yn pedlar yn y wlad yma - mae pobl yn meddwl ein bod ni'n dwyn swyddi ond dyw hynny ddim yn wir.

"Os oedd hyn yn anghyfreithlon, fydden ni ddim yn ei wneud e.

"Ni'n golchi dwylo cyn ac ar ôl pob cwsmer a ni'n gwisgo mygydau a sbectol felly ni'n gwneud popeth ni'n gallu er mwyn aros yn ddiogel."

Dim cyfraith i'w hatal

Ar hyn o bryd mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â masnachu ar y stryd ond yn gwahardd nwyddau rhag cael eu gwerthu - ond gan fod y stondinwyr yma yn cynnig gwasanaethau yn hytrach na nwyddau, does dim rheolau i'w hatal.

Fe fyddai angen newid yn y gyfraith er mwyn newid y sefyllfa.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod wedi edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno cyfraith newydd, ond nad oedd ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater wedi denu fawr o ymateb.

Dywedodd llefarydd eu bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa a bod swyddogion yn sicrhau bod y stondinwyr yn dilyn y canllawiau o ran iechyd a diogelwch.