Dim lle i Geraint Thomas yn y Tour de France eleni

  • Cyhoeddwyd
Geraint - Criterium du Dauphine 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas fydd yn arwain Team Ineos yn y Giro d'Italia ym mis Hydref

Mae Geraint Thomas wedi cael ei adael allan o'r Tour de France eleni.

Ni chafodd y Cymro - enillydd y ras yn 2018 - ei enwi ymhlith yr wyth fydd yn cystadlu o dan faner Team Ineos.

Dywedodd Syr Dave Brailsford, pennaeth Team Ineos, y bydd Thomas yn canolbwyntio ar ennill y Giro d'Italia yn yr hydref.

Egan Bernal, enillydd y Tour y llynedd, fydd arweinydd Team Ineos unwaith eto, a'r Cymro, Luke Rowe fydd capten y ffordd.

Does dim lle i Chris Froome - enillydd y ras ar bedwar achlysur - yn y Tour eleni chwaith.

Bydd y Tour de France yn cael ei gynnal rhwng 29 Awst-20 Medi, gyda'r Giro d'Italia i ddigwydd rhwng 3-25 Hydref.

"Does 'na Gymro erioed wedi ennill y Giro - mae'n ras fawr," meddai Syr Dave Brailsford.

"Mae'r boi yma isio cyfle mawr, llwyfan mawr, felly 'da ni wedi penderfynu rhoi'r cyfle i Geraint ganolbwyntio ar y Giro.

"Mae o wedi ennill y Tour, os allith o ennill y Giro hefyd mi fydda hynny'n wych."