Tai heb bŵer a rhybuddion am lifogydd wedi Storm Ellen
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio am lanw uchel mewn mannau arfordirol fel Porthcawl
Mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb drydan a rhybuddion am lifogydd mewn grym wrth i Storm Ellen daro Cymru.
Dywedodd cwmni Western Power bod dros 320 o dai yn Ffos y Gerddinen, Sir Caerffili wedi bod heb bŵer fore Gwener.
Fe wnaeth 175 o gartrefi ym Mrynbuga, Sir Fynwy, tua 80 yn ardal Cathays yng Nghaerdydd a dros 60 yn Ninas Powys ym Mro Morgannwg golli eu cyflenwad hefyd.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o rybuddion llifogydd mewn grym, dolen allanol o amgylch arfordir Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.

Roedd y llanw uchel wedi rhoi rhan o Aberaeron dan ddŵr fore Gwener

Tonnau yn taro'r prom yn Aberystwyth fore Gwener
Mae'r M48 Pont Hafren ynghau i'r ddau gyfeiriad wedi iddyn nhw brofi gwyntoedd o hyd at 95mya, ac mae terfyn cyflymder o 30mya mewn grym ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn yn ogystal.
Mae gwasanaethau fferi rhwng Caergybi a Dulyn, ac Abergwaun a Rosslare wedi cael eu gohirio neu eu canslo'n llwyr.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod cyfyngiadau ar gyflymder trenau mewn grym hefyd rhwng Caergybi a Bangor, a bod disgwyl oedi nes ganol y prynhawn ar y cynharaf.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd perchennog maes gwersylla Apple Camping yn Ninbych-y-pysgod bod coeden a phabell wedi disgyn yn y gwynt dros nos.
"O'm mhrofiad i, dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn, dim ym mis Awst," meddai wrth Radio Wales.

Cafodd y goeden yma ei chwythu i'r llawr gan y gwynt ar faes gwersylla Apple Camping