Pryder am ddyn allai fod ar goll ym Mae Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau yn dweud bod ganddyn nhw bryder am ddyn allai fod ar goll ym Mae Caerfyrddin.
Dywedodd y gwasanaeth bod dyn oedd ar jet-ski wedi eu galw am 16:00 brynhawn Sul yn dweud ei fod yn cael trafferthion gyda'i injan.
Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a thri bad achub yr RNLI o Ddinbych-y-pysgod, Porth Tywyn a'r Mwmbwls yn chwilio'r ardal, ond ni ddaethon nhw o hyd i'r dyn.
Mae'r gwaith o chwilio wedi dod i ben am y tro.
Mae Gwylwyr y Glannau yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu'r dyn dan sylw os llwyddodd i gyrraedd y lan, i gysylltu â nhw.