Cyfnod Covid: 'Siarcod benthyg yn cymryd mantais'

  • Cyhoeddwyd
Ryan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Evans yn poeni bod pobl yn troi at siarcod benthyg am gymorth

Mae yna rybudd bod siarcod benthyg yn defnyddio'r ansicrwydd ariannol sy'n cael ei achosi gan coronafeirws i dargedu pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yn poeni am ddiwedd gwyliau ad-dalu morgais a cherdyn credyd ynghyd â'r cynllun ffyrlo.

Mae'r uned yn delio â dwsinau o adroddiadau am fenthyca anghyfreithlon bob blwyddyn.

Ond ychydig iawn o siarcod benthyg sy'n cael eu herlyn oherwydd bod eu dioddefwyr yn aml yn rhy ofnus i roi tystiolaeth yn y llys.

'Troi at fenthycwyr heb drwydded'

Dywedodd Ryan Evans o'r uned: "Rydyn ni'n disgwyl colli swyddi ledled y wlad ar draws pob sector.

"Rydych chi'n mynd i gael y benthycwyr cyfreithlon yn tynhau eu meini prawf ar gyfer benthyciadau ac rydyn ni'n mynd i gael sefyllfa lle mae pobl yn mynd i fod yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.

"Y peth gwaethaf a all ddigwydd yw y gallai pobl fynd at fenthyciwr arian didrwydded, dyna'r pryder sydd gennym ni."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Dean Jenkins ei gymryd i'r llys gan yr uned

Fis diwethaf, plediodd Mark Dean Jenkins, 51 oed o Dredegar ym Mlaenau Gwent, yn euog i gyhuddiad o fenthyca arian yn anghyfreithlon.

Benthycodd £2,000 i hen ffrind ysgol a chymydog a oedd yn cael trafferth gyda dibyniaeth ar gamblo.

Collodd y ffrind ei swydd a chwalodd ei briodas.

Yn y diwedd, collodd ei gartref a bu'n cysgu ar y stryd cyn i elusen ei helpu i ddod o hyd i lety mewn hostel yn Y Fenni.

Clywodd ynadon fod Jenkins wedi bygwth llosgi ei hostel i lawr oni bai ei fod yn talu'r arian yn ôl ynghyd â £1,000 mewn llog.

Cafodd ddirwy o £200 a gorchymyn i dalu £450 mewn costau llys. Mae ei ddioddefwr bellach yn byw mewn fflat ei hun ac yn ceisio ailadeiladu ei fywyd.

Benthycodd un dioddefwr - a gafodd gymorth gan yr uned - tua £450 a phan gollodd ei swydd a'i chael hi'n anodd ad-dalu'r arian, cafodd ei bygwth â thrais.

"Doedd gen i ddim digon, allwn i ddim bwyta'n iawn, allwn i ddim dilladu fy mhlant yn iawn," meddai'r ddynes, a ofynnodd am beidio â chael ei hadnabod.

"Os na allwn i dalu, roedden nhw'n bygwth fy nghuro i o flaen fy mhlant.

"Pe bai cnoc ar y drws, byddwn bob amser yn cael fy ffôn wrth fy ochr a byddwn yn cloi'r ffenestri a'r drysau. Doedd gen i ddim hyder, roeddwn i mor ofnus."

'Cael help yn gynnar'

Dywedodd yr elusen ddyledion StepChange ei bod yn disgwyl gweld cynnydd yn y galwadau am gymorth wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben ym mis Hydref ac mae'n apelio ar bobl i gadw'n glir o fenthycwyr anghyfreithlon.

Dywedodd Peter Tutton, pennaeth polisi'r elusen: "Lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd ac mewn anhawster ariannol, byddem yn dweud wrthoch chi i gael help yn gynnar.

"Ewch i asiantaeth gynghori fel StepChange neu asiantaeth arall a all roi help a chyngor i chi. Mae bron bob amser rhywbeth y gellir ei wneud i ddatrys eich problemau dyled.

"Os ceisiwch ddefnyddio credyd, neu'n waeth fyth, fenthycwyr anghyfreithlon, bydd yn gwaethygu'ch problemau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol