Pont Hafren i gau er mwyn cynnal ras 10K
- Cyhoeddwyd
Bydd ffordd yr M48 Pont Hafren ynghau fore Sul ar gyfer ras 10k.
Ni fydd ras flynyddol Hanner Marathon Pont Hafren yn cael ei chynnal eleni oherwydd y pandemig, felly mae ras 10k yn cael ei chynnal yn ei lle.
Fe fydd 1,250 o redwyr yn cymryd rhan, gyda bwlch o 10 eiliad rhwng pob cystadleuydd.
Bydd y bont ar gau rhwng Cas-gwent a phentref Aust yn Sir De Caerloyw o 07:30 nes 12:00 fore Sul.
Dywedodd Gareth Price o adran Priffyrdd Lloegr: "Byddwn yn atgoffa gyrwyr i gynllunio o flaen llaw, ac yn ogystal â chau'r bont, mae disgwyl i ffyrdd lleol fod ychydig yn fwy prysur cyn ac ar ôl y ras.
"Ein cyngor yw i gadw golwg ar ein sianeli traffig a gwybodaeth teithio, dechrau yn gynnar a gadael digon o amser."