CPD Abertawe yn cyhoeddi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Dinas Abertawe wedi cyhoeddi mai Julian Winter yw eu prif weithredwr newydd yn dilyn ymadawiad y cadeirydd Trevor Birch.
Mae gan Winter brofiad o fod yn brif weithredwr gyda chlybiau Sheffield United, Watford a Huddersfield Town.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mr Winter: "Edrychaf ymlaen at ddechrau yn y clwb o ddydd i ddydd, gan gwrdd â'r staff ar draws y clwb a helpu i arwain Dinas Abertawe i ddyfodol llwyddiannus ar ac oddi ar y cae."
Fe gyhoeddodd Trevor Birch ddydd Mawrth ei fod yn gadael Abertawe er mwyn ymuno â Tottenham Hotspur yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Cafodd Trevor Birch, 62, ei benodi'n olynydd i Huw Jenkins ym mis Mawrth 2019.
Daeth Birch i'r clwb er mwyn ailstrwythuro pan ddisgynnodd yr Elyrch i'r Bencampwriaeth.
Y gred yw ei fod yn gadael Abertawe er mwyn symud yn agosach at gartref ei deulu yn Llundain.