Criced: Morgannwg yn colli yn erbyn Gwlad yr Haf

  • Cyhoeddwyd
Nick SelmanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Methu wnaeth ymdrechion Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf nos Fawrth, wrth i'r tîm o dde orllewin Lloegr gipio eu buddugoliaeth T20 gyntaf o'r tymor.

Arweiniodd capten Gwlad yr Haf, Tom Abell y ffordd gyda 74 heb fod allan o 45 pêl, gan rannu cyfanswm o 110 gyda James Hildreth (34 heb fod allan).

Fe lwyddodd Ben Green i sicrhau 4-26, gan gyfyngu Morgannwg i 133-8.

Roedd yn rhaid i Forgannwg ddibynnu'n helaeth ar y capten Chris Cooke (42).

Fe fydd y ddau dîm yn teithio i Edgbaston ddydd Iau 3 Medi, gyda Gwlad yr Haf yn wynebu Swydd Gaerwrangon cyn i Forgannwg herio Northants.