71 o swyddi yn fantol mewn ffatri fwyd yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Arwydd ffordd y glowyrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r busnes wedi ei sefydlu ar ystâd ddiwydiannol yn Llai

Mae 71 o swyddi yn fantol mewn ffatri fwyd yn Wrecsam.

Dywed y cwmni Tyson Foods ei bod yn edrych ar sawl opsiwn gan gynnwys dod â'r gwaith cynhyrchu i ben neu werthu'r safle.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud bod y cynnig wedi ei osod gerbron yn sgil ffactorau fel yr "angen i addasu i anghenion y cwsmer, sydd yn newid" a gallu'r cwmni i wneud elw.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn ymgynghori gyda'n haelodau yn Wrecsam ynglŷn â'r cynnig i ddod â'r gwaith cynhyrchu i ben ar 30 Medi 2020."

'Torcalonnus'

Yn ôl undeb Unite maen nhw wedi bod yn ymgynghori gyda Tyson Foods ac roedden nhw'n gobeithio y byddai yna brynwr newydd yn dod i'r fei. Ond mae swyddogion yr undeb yn dweud nad yw hyn wedi digwydd a bod y cwmni wedi cadarnhau y bydd y ffatri yn cau.

Dywedodd Jo Goodchild, Swyddog Rhanbarthol Cymru Unite bod y newyddion yn "dorcalonnus" i'r gweithwyr.

"Mae economi gogledd ddwyrain Cymru wedi gweld cyfres o ddiswyddiadau mawr yn y misoedd diwethaf ac mae'r newyddion heddiw yn fwy o newyddion gwael i'r ardal leol."

Dywed yr undeb mai blwyddyn yn ôl y gwnaeth Tyson Foods gymryd drosodd y busnes gan gwmni arall. Ond mae rhai wedi gweithio ar y safle, sydd yn Llai, ers dros 40 mlynedd medd Unite a "dyma'r unig swydd maent wedi ei gael".

Ychwanegodd yr undeb y byddant yn cefnogi eu haelodau yn ystod y cyfnod "heriol" yma.