Cyfnod 'prysuraf erioed' i werthwyr carafanau

  • Cyhoeddwyd
CarafannauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arolwg yn awgrymu cynnydd o 50% yng ngwerthiant carafannau ail law yn y DU dros yr haf

Mae cwmnïau gwerthu carafanau a chartrefi symudol yng nghanol eu cyfnod prysuraf erioed, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.

Rhai wythnosau ers ailagor wedi'r cyfnod clo, mae rhai yn dweud eu bod nhw'n gweithio ddydd a nos i gwrdd â'r galw presennol.

Mae arolwg diweddar gan y Cyngor Carafanau (NCC) yn awgrymu cynnydd o 50% yng ngwerthiant carafanau ail law yn y DU yn ystod misoedd yr haf.

Yr adeg hon o'r flwyddyn, fel arfer byddai gan gwmni Ennis rhyw 100 o garafanau ar werth ar eu safle yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, ond 20 yn unig sydd yno ar hyn o bryd.

'Gwerthiant 'di treblu'

"Ma' pob diwrnod 'di bod yn boncyrs," meddai'r perchennog Shaun Ennis.

"Ni'n agor y giatiau a ni'n trio 'neud appointments only ond ma'r ciws rhyfedda 'da ni.

"Ma' gwerthiant 'di treblu ers blwyddyn diwetha'. Ma'r iard yn wag. So ni 'rioed di bod mor isel â hyn.

"Gydag ond 20 yn dal ar werth yma, ma' hynna'n crazy. A dros y ddau fis diwetha' mae'r rhan fwyaf sydd wedi prynu yn newydd i garafanio."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shaun Ennis bod "pob diwrnod 'di bod yn boncyrs"

Mae'r ymchwil diweddaraf hefyd yn awgrymu fod 37% o'r rhai brynodd garafan yr haf hwn wedi gwneud hynny am y tro cyntaf.

Mae Eirith Morris o Gaerfyrddin yn eu plith.

Fe gafodd hi'r camperfan fel anrheg ar gyfer pen-blwydd arbennig.

"O ni wedi neud yr ymchwilio ac o ni wedi penderfynu pwy o ni am ddefnyddio i drawsnewid y camper - a phan ethon ni ato fe ddywedodd, 'Na drueni bod ni wedi dod yn gynt achos bod y galw yn fawr iawn'.

"Yn ei ôl e - dywedodd e wrthai 'se ni wedi cael e cyn y pandemig bydden ni wedi safio £4,000..."

Mae'r teulu wedi cael tipyn o ddefnydd o'r camperfan ers ei phrynu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirith Morris wedi cael defnydd mawr o'r camperfan yr haf hwn

"Ni wedi bod dros draethau a cefn gwlad de Cymru i gyd bron, a ni wedi bod yn defnyddio caeau ein ffrindiau a teulu ar gyfer penwythnosau achos bod bobman wedi bod mor llawn.

"Ar hyn o bryd ni'n hapus i fod yng Nghymru. Ni ddim yn mynd dramor oherwydd y pandemig beth bynnag, ond unwaith bydd pethe yn gwella fi'n siŵr y byddwn ni yn mynd drosto i ble bynnag.

"Ni wedi neud y mwyaf ohoni yn barod ac wedi mwynhau pob eiliad."

Prysurdeb yn achosi straen

Mae cwmni 3AS yng Nghaerfyrddin yn gwerthu carafanau a moduron cartref.

Hwn yw'r cyfnod prysuraf eto, yn ôl y perchennog Angharad Rees.

"Ni di bod yn fishi ofnadw. Sai wedi gweld amser mwy bishi a dweud y gwir," meddai.

"Ma' Covid wedi gwneud i bobl feddwl am aros adre ar gyfer eu gwylie. Ma' rhai pobl yn meddwl mynd dramor gyda'u carafan neu motorhome.

"A 'ma lot yn dweud eu bod nhw wedi meddwl am brynu ers sawl blwyddyn, ond achos bod y lockdown 'di bod, maen nhw di meddwl 'man a man i ni 'neud e eleni, achos so ni'n gw'bod be all ddigwydd y flwyddyn nesaf'."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Angharad Rees mae staff yn "ffeindio hi'n anodd i gadw lan"

Ar ôl bod ynghau am wythnosau oherwydd y cyfnod clo, mae'r prysurdeb diweddar wedi achosi straen yn ôl Ms Rees.

"Ma' pobl di bod yn prynu carafan, ac yn meddwl, quick look, a bydd hi'n barod - ond dyw hi ddim mor rhwydd â hynny," meddai.

"Ma' rhai yn gallu bod yn y workshop am ddiwrnode, a dyw nifer o gwsmeriaid ddim yn meddwl am y backlog - dim pawb wrth gwrs!

"Ar ddechre Covid o'n nhw'n dweud y bydde pobl yn neisiach wrth ei gilydd, yn fwy amyneddgar, ond dyw hynna ddim 'di digwydd o gwbl.

"Oherwydd ei bod hi mor fishi, dyw lot o'r staff dim 'di cael gwyliau eto, a dwi'n credu bo' ni gyd di cyrraedd y pwynt lle ry'n ni wedi blino shwt gymaint, ni'n ffeindio hi'n anodd i gadw lan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hywel Davies bod "pobl yn bwcio lle yn barod" ar gyfer y flwyddyn nesaf

Mae gwersylloedd carafanau hefyd wedi gweld cynnydd aruthrol gydag archebion ac ymholiadau.

Dywedodd Hywel Davies, sy'n rhedeg Parc Carafanau Fferm Llwynifan yn Llangennech, Sir Gâr: "Mae rhai 'da ni ar y safle ar y foment sydd wedi llogi carafan am ryw wythnos a threial e mas, er mwyn gweld os ydyn nhw'n hoffi'r bywyd, achos mae e'n wahanol i aros mewn gwesty.

"Ond ni'n flat out! A hefyd ar gyfer blwyddyn nesa' - ma' pobl yn bwcio lle yn barod."