Patrolau oriau mân i daclo gwersylla gwyllt y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwersylla anghyfreithlon: 'Ni angen rheoli ymwelwyr'

Mae ymgyrch yn ceisio dod i'r afael â gwersylla anghyfreithlon yn Sir Benfro, yn dilyn twf sylweddol yn nifer y bobl sy'n aros dros nos mewn meysydd parcio yn y sir.

Mae patrolau'n cael eu cynnal yn gynnar y bore gan y cyngor sir, ac yn dosbarthu dirwyon o hyd at £70 er mwyn taclo problem 'gwersylla gwyllt'.

Yn ôl un o swyddogion y cyngor mae sbwriel yn broblem gynyddol o ganlyniad, gydag "ambell un yn difetha'r cwbl i bawb arall".

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro nad yw gwasanaethau nag amgylchedd bregus yr ardal yn gallu ymdopi.

Mae gwersylla gwyllt mewn pabell neu fan yn anghyfreithlon yng Nghymru, oni bai bod caniatâd gan dirfeddianwyr ymlaen llaw.

Mae Mark Davies yn swyddog gweithredu sifil gyda Chyngor Sir Benfro. Mae'n teithio o amgylch meysydd parcio'r sir tair gwaith yr wythnos, yn dechrau am 05:00 gan edrych am gerbydau wedi parcio dros nos yn anghyfreithlon.

Mae'n dweud bod nifer y dirwyon mae'n eu dosbarthu yn cynyddu, yn enwedig ar benwythnosau, ac mae hefyd wedi sylwi ar fwy o sbwriel yn cael ei adael meysydd parcio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Davies yn teithio o amgylch meysydd parcio'r sir ac yn rhoi dirwyon i'r rhai sy'n aros heb ganiatâd

"Chi'n gallu gweld bod pobl wedi bod yn yfed, wedyn ddim yn bagio'r sbwriel a'i gludo adre', ond ei adael ar gyfer yr awdurdodau i'w glirio.

"Mae'n rhwystredig, mae pobl yn meddwl bod nhw'n gallu anwybyddu'r rheolau achos bod nhw'n cael amser da.

"Ond os bydden nhw'n dilyn y rheolau, yna fydde pawb yn gallu mwynhau. Ma ambell un yn difetha'r cwbl i bawb arall."

Mae swyddogion hefyd wedi gweld twf yn nifer y cerbydau - gan gynnwys faniau gwersylla - mewn mannau aros ac ar ochrau'r hewl.

Mae hyn yn peryglu bywydau wrth gyfyngu lle ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys ac yn arwain at broblemau cymdeithasol - fel sbwriel neu hyd yn oed pobl yn defnyddio ardaloedd o'r parc cenedlaethol fel toiledau cyhoeddus.

Yn ôl Tegryn Jones sy'n Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyw gwasanaethau lleol nag amgylchedd yr arfordir yn gallu ymdopi.

"Mae'r amgylchedd yn fregus ac yn arbennig iawn yma ac ar hyn o bryd, ry'n ni'n denu lluoedd o ymwelwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl ymwelwyr yn rhoi straen ar amgylchedd a chyfleusterau'r parc, meddai Tegryn Jones

"Ond mae'r biniau ac ati wedi gosod i fyny ar sail ymwelwyr diwrnod felly pan mae bobl yn aros ac yn coginio - maen nhw'n gor-lenwi'r biniau ac yn gadael sbwriel ar ôl.

"Ni hefyd wedi gweld pobl yn gwaghau toiledau ar ochr yr hewl, sy' ddim yn rhywbeth pleserus i neb.

"Ni'n cael cwynion wrth bobl leol, wrth bobl sy'n rhedeg busnesau fel meysydd gwersylla - ma' nhw wedi buddsoddi mewn cyfleusterau felly dyw hi ddim yn deg fod pobl ddim yn cyfrannu i'r economi leol."

Mae'r niferoedd sy'n torri'r rheolau yn arwain at densiynau mewn cymunedau lleol, gyda thrigolion yn dweud eu bod yn deall yr angen i groesawu twristiaid, ond yn gofyn iddyn nhw barchu'r ardal.

"Mae tensiynau wedi bod yn uchel," meddai Marc Owen, rheolwr gofal strydoedd a pharcio Sir Benfro.

"Mae gyda ni feysydd gwersylla penigamp yn y sir, felly dy'n ni ddim yn dweud wrth bobl i beidio dod yma, ond ni yn dweud dewch i ymweld â Sir Benfro ond byddwch yn ddiogel a chynlluniwch yr ymweliad ymlaen llaw.

"Dyw'r meysydd parcio ddim yn addas ar gyfer aros dros nos felly mae'n bwysig fod pobl yn sylweddoli bod cyfleusterau ardderchog i gael dros y sir ar gyfer treulio gwyliau."

Cafodd tua 20 o ddirwyon eu dosbarthu gan swyddogion y penwythnos diwethaf - ac mae'r cyngor yn dweud y bydd y patrolau yn parhau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn parcio'n anghyfreithlon.