Dechrau da i Forgannwg yn erbyn Sir Warwick
- Cyhoeddwyd
Cafodd bowlwyr Morgannwg ddiwrnod cyntaf da yn eu gêm bedwar niwrnod yng Nghwpan Bob Willis yn erbyn Sir Warwick.
Dewisodd Morgannwg fowlio yn gyntaf ar ddiwrnod digon cymylog yng Ngerddi Soffia.
Talodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth i van der Gugten, Carey a Douthwaite gipio tair wiced yr un a hynny gan ildio 45, 54 a 42 o rediadau.
Felly roedd Sir Warwick i gyd allan am 186 o rediadau a Morgannwg wedi dechrau eu batiad cyntaf nhw. Ond yn anffodus yn y bumed pelawd fe syrthiodd wiced Selman.
Felly ar ddiwedd y diwrnod cyntaf roedd Morgannwg 182 o rediadau yn brin o gyfanswm Sir Warwick ond gyda naw wiced mewn llaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2020