'Hylif hylendid wedi achosi i fi golli fy modrwyau'

  • Cyhoeddwyd
Eleri HourhaneFfynhonnell y llun, Eleri Hourhane
Disgrifiad o’r llun,

'Fe wnaeth degau o bobl rannu fy neges bod y modrwyau ar goll,' medd Eleri Hourahane

'Rwy'n credu'n gryf mewn golchi fy nwylo a defnyddio hylif hylendid yn ystod y cyfnod hwn," medd Eleri Hourahane, cyn-bennaeth Ysgol Sant Curig yn Y Barri, "ond rwy'n credu bod yr hylif wedi peri i fi golli fy modrwy briodas a'm modrwy ddyweddio."

"Roeddwn wedi dod lan i fy hen gartref yn Aberaeron er mwyn rhoi blodau ar fedd y teulu yn Aberarth - byddai mam, a oedd yn arfer bod yn fydwraig yn yr ardal, wedi bod yn 110 ar y pedwerydd o Fedi.

"Felly bant a fi i roi'r blodau a dyma sylwi yn sydyn drannoeth nad oedd yr un modrwy ar fy mys.

"Wel dyna oedd sioc a siom a dyma chwilio'r tŷ i gyd, mynd nôl i'r fynwent ac i siopau yn yr ardal lle'r oeddwn wedi bod yn ymweld â nhw yn ystod y dydd. Ro'n ni hefyd wedi bod â sbwriel i'r bin ac roedd y bin wedi mynd y bore hwnnw!

'Erioed wedi tynnu'r fodrwy briodas'

"Ffonio hwn a'r llall wedyn a rhannu'r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol rhag ofn bod rhywun wedi gweld dwy fodrwy - ro'n wedi bod yn ymwybodol ers tro bod fy modrwy ddyweddio yn rhydd ers i fi ddechrau golchi fy nwylo yn barhaus ers dyfodiad haint coronfeirws.

Ffynhonnell y llun, Eleri Hourahane
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri a Peter Hourahane wedi bod yn briod am 44 o flynyddoedd

"Sai'n credu bod fy modrwy briodas wedi dod oddi ar fy mys erioed ac ry'n wedi bod yn briod ers 44 mlynedd ac ar ôl rhannu'r neges ar facebook fe wnaeth degau ar ddegau rannu'r neges ac mi oedd hi'n braf cael negeseuon o gysur a chydymdeimlad.

"Ond wedi dweud hynny roedd rhaid i fi roi'r cyfan mewn perspectif a diolch bo fi ddim wedi colli'r gŵr Peter ac fe fynnodd e bo fi o hyn ymlaen yn gwisgo ei fodrwy briodas e."

Yn y Geiriadur Mawr!

Ond mae yna ddiweddglo hapus. Yn hwyr y noson ganlynol wrth weld nad oedd y Geiriadur Mawr wedi cau yn iawn ar y silff dyma'r cyn-brifathrawes yn dod o hyd i'r ddwy fodrwy.

Ffynhonnell y llun, Eleri Hourahane
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n drip a hanner i Aberaeron y tro yma, meddai Eleri Hourhane

"Na dwi ddim yn pori yn y Geiriadur Mawr yn aml ond roedd y ferch newydd ffonio i fi siecio ryw air ac mae'n rhaid bod y modrwyau rywsut wedi dod bant wrth i hynny ddigwydd a'r gŵr yna wedi cau'r geiradur heb eu gweld.

"Gallen nhw fod wedi bod yna am flynyddoedd.

"Ro'n i mor falch - a theimlo braidd yn ddwl ar yr un pryd gan fod fy ffrindiau ymhobman yn ffonio ac yn postio negeseuon am y modrwyau.

"Bu'n drip a hanner i Aberaeron tro yma ar gyfnod lle byddai mam a'i hefaill wedi bod yn 110 a chawson ni ddim lot o hamddena cyn dychwelyd i'r Barri fore Llun.

"Ond mae'n hyfryd meddwl bod yna gymaint o bobl wedi bod yn meddwl amdanai ond fydden i'n rhybuddio pobl i fod yn ofalus - rwy'n siwr bod yr hylif hylendid, er mor werthfawr, wedi achosi fi i golli fy nwy fodrwy," meddai Eleri Hourahane.