50 o swyddi Afonwen yn y fantol ger Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
AfonwenFfynhonnell y llun, Afonwen

Fe all hyd at 50 o swyddi fod dan fygythiad mewn golchdy ger Pwllheli.

Mae gan Afonwen - sy'n arbenigo mewn contractau golchi dillad mawr ar gyfer gwestai a'r diwydiant lletygarwch - ganolfannau ym Mhwllheli, Caerdydd, Birmingham a Chaeredin, ac mae'n cyflogi cannoedd o bobl ledled y DU.

Cafodd y cwmni golchi dillad o Gymru ei werthu i'r gadwyn lanhau Johnson Service Group yn 2016 am £52.6m.

Mewn datganiad, dywedodd Mark Woolfenden, rheolwr gyfarwyddwr Afonwen, fod y sefyllfa yn newid mewn ymateb i'r newid yn lefelau busnes.

Dywedodd fod golchdai yng ngogledd Cymru wedi cael misoedd Gorffennaf ac Awst "addawol ac adferiad gwell na'r disgwyl".

Ychwanegodd nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud "ar hyn o bryd".

"Rydym yn gobeithio, fodd bynnag, y gallwn weld adferiad pellach mewn lletygarwch yng ngogledd-orllewin Lloegr a fyddai, os ydyw'n dwyn ffrwyth, yn gallu helpu i liniaru a lleihau nifer y gweithwyr yr effeithir arnyn nhw - yn anffodus, fe all tua 50 ohonyn nhw gael eu diswyddo o'n safle ym Mhwllheli," meddai.

"Rydym yn parhau i weithio'n galed i edrych ar ffyrdd o liniaru unrhyw ddiswyddiadau a gweld a oes cyfleoedd eraill, gan gynnwys adleoli gweithwyr os ydy eu rôl yn cael ei heffeithio o ganlyniad i alw busnes is na'r arfer."

Sefydlwyd Afonwen yn wreiddiol yn 1935 gan William George, brawd y cyn-brif weinidog, David Lloyd George.