Busnesau'n 'fregus iawn' oherwydd heriau Brexit a Covid

  • Cyhoeddwyd
cwsmerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae busnesau mewn "sefyllfa fregus iawn" oherwydd "does gyda nhw mo'r amser nac arian" i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb wedi'r pandemig, medd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru.

Dywed y corff fod busnesau'n wynebu heriau ychwanegol ar ôl gorfod mynd i ddyled er mwyn delio gyda'r argyfwng coronafeirws.

Mae hefyd yn dweud fod naw o bob 10 o'i aelodau wedi cael trafferthion llif arian ers dechrau'r pandemig.

Daw'r rhybuddion wrth i densiynau ddwysáu yn ystod trafodaethau'r wythnos hon rhwng y DU a'r UE, gan arwain at bryderon cynyddol fod Brexit digytundeb yn fwy tebygol.

"Problemau llif arian yw'r broblem fwyaf," meddai Joshua Miles o FSB Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Joshua Miles

"Mae un o bob pump o'n haelodau wedi cael benthyciadau'r llywodraeth, mae eraill wedi mynd i ddyled, defnyddio cardiau credyd, mae rhai wedi benthyg arian gan ffrindiau a pherthnasau ac mae eraill wedi defnyddio'u cynilion oes eu hunain.

"Mae'r cyfan yn golygu nad ydyn nhw wedi bod â'r amser neu'r arian i baratoi ar gyfer rhywbeth fel Brexit digytundeb.

"Mae hynny'n mynd i fod yn her o ddifri i ni oll wrth symud ymlaen - mae'n ein rhoi mewn sefyllfa fregus iawn.

"Dan anfantais unigryw"

Yn ôl Aelod Pen-y-bont ar Ogwr o'r Senedd, y cyn-Brif Weinidog Llafur, Carwyn Jones mae economi'r DU yn arbennig o fregus ar hyn o bryd oherwydd Brexit.

"Mae pob gwlad arall yn y byd wedi gorfod delio gyda Covid, ond y DU yw'r unig wlad sy'n gorfod delio gyda Brexit.

"Mae'n golygu fod y DU gyfan dan anfantais unigryw."

Yn ôl Jamie Wallis AS Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn Nhŷ'r Cyffredin mae cytundeb Brexit "yn dal yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo fod ar sail masnach rydd gyda gwledydd eraill yr UE.

"Yr hyn sy'n bwysig yw bod unrhyw gytundeb ddim yn torri'r addewid a wnaethon ni i bobl Prydain i adennill rheolaeth o'n harian, ffiniau a deddfau.

"Dyna y mae'r bobl a bleidleisiodd i adael yr UE yn ei ddisgwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchennog Wendy Morris yn poeni am effaith Brexit heb gytundeb

"Mae angen sicrwydd"

Mae Wendy Morris yn rhedeg campfa Energie Fitness ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd ei bod yn poeni am effaith economaidd Brexit digytundeb ond ei bod yn dymuno i Lywodraeth y DU "fwrw 'mlaen 'dag e".

Ychwanegodd: "I fod yn onest, rwy'n meddwl bydde unrhyw fath o gytundeb, gan gynnwys dim cytundeb, yn well na'r dryswch rydyn ni ynddo ar hyn o bryd.

"Mae angen sicrwydd. Mae'n effeithio ar bawb ac rwy'n pryderu fod y Llywodraeth, oherwydd coronafeirws, yn edrych i ddau gyfeiriad gwahanol."

Cymysg oedd y farn ymhlith defnyddwyr y gampfa.

"Mi wn fod Brexit yn dod ond rwy'n meddwl dyliwn ni ganolbwyntio ar coronafeirws," meddai Lisa Driscoll.

Daniel Bayliss, yw un arall o ddefnyddwyr y gampfa.

"Dyw pethau ddim yn grêt ar y funud ond os, gobeithio, gawn ni coronafeirws dan reolaeth, cael rhyw fath o sicrwydd ar drafodaethau Brexit, yna gall pethau ddechrau edrych ychydig yn fwy gobeithiol.

"Ar y funud, dydw i ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn teimlo'n obeithiol."