Cerddwr wedi marw ar ôl cwymp sylweddol yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi marw ar ôl cwympo "pellter sylweddol" ar Yr Wyddfa.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn sawl adroddiad am gerddwr oedd wedi syrthio oddi ar lwybr Pen y Gwryd ddydd Mercher.
Bu hofrennydd gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd o Aberglaslyn y chwilio'r ardal yn Pant y Lluwchfa, gan ddod o hyd i gorff yn ddiweddarach.
Dywedodd Tîm Achub Llanberis eu bod am "estyn ein cydymdeimlad dwys i deulu un o'n cyd-gerddwyr ar y mynyddoedd."