T20 Vitality Blast: Morgannwg yn colli'n drwm i Wlad yr Haf

  • Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Babar Azam 114 gyda'r bat heb fod allanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Babar Azam 114 o rediadau heb fod allan

Fe gollodd Morgannwg yn drwm yn erbyn Gwlad yr Haf yng Ngerddi Soffia, Caerdydd nos Fercher.

Fe osododd yr ymwelwyr darged swmpus o 183-3, gyda Babar Azam yn sgorio 114 gyda'r bat i Wlad yr Haf heb fod allan.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 117.

Mae Morgannwg yn bumed yn eu tabl yng nghystadleuaeth y Vitality Blast ar ôl wyth gêm.

Nid oes siawns ganddyn nhw bellach o fynd drwodd i rownd yr wyth olaf.