Ble mae'r cyrff 'normal' ar y cyfryngau cymdeithasol?

  • Cyhoeddwyd
Shoned, Devoted to Pink, MariFfynhonnell y llun, Devoted to Pink

Yn draddodiadol, mae cwmnïau harddwch, ffasiwn a phersawr wedi bod yn defnyddio delweddau o'r corff 'perffaith' i farchnata eu cynnyrch. Boed yn ddynion neu'n fenywod, fel arfer does dim bloneg, na cellulite i'w weld a dim blewyn allan o'i le.

Dwy sydd yn ymgyrchu dros hyder corfforol a'r pwysigrwydd o ddangos pob math o gyrff wrth farchnata ac ar y cyfryngau cymdeithasol ydy Shoned Owen o gwmni Tanya Whitebits a Mari Gwenllian o gwmni h.i.w.t.i.

"Dwi'n teimlo bod gen i gyfrifoldeb mawr fel brand i gynnwys delweddau mwy eang allan yna, yn enwedig gyda'r ymgyrch nesa' fyddai'n neud," meddai Shoned Owen a sefydlodd y cwmni Tanya Whitebits sy'n gwerthu cynnyrch lliw haul ffug, yn 2013.

"Mae gen i ddwy ferch fy hun, efeilliaid sydd yn 17, ac mae gymaint o bwysau ar bobl ifanc dyddie yma a dwi'n teimlo bod angen cynrychiolaeth fwy eang o gyrff gwahanol, croen gwahanol, croen ar ôl cael babi, plus size, cellulite - fel bod o yn fwy cynwysiedig," meddai wrth Jennifer Jones ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru.

"Os chi'n edrych ar magazines neu Instagram, does na ddim scars ar y croen... a dwi'n meddwl bod ni angen cael fwy o gynrychiolaeth - nid jyst siâp gwahanol neu liw croen gwahanol ond pethau ychwanegol hefyd."

Ffynhonnell y llun, Shoned Owen

Mae ei chwmni wedi gwneud ymchwil gyda'r cwsmeriaid yn holi beth fydden nhw'n hoffi gweld fel rhan o ymgyrch farchnata nesaf y cwmni. Roedd y canlyniadau yn dangos yn glir, meddai Shoned, fod y cwsmeriaid eisiau gweld cynrychiolaeth ohonyn nhw, gan gynnwys creithiau, corff ar ôl cael babi a meintiau corff fwy.

"Dan ni yn gobeithio creu posteri newydd... nid y ferch mewn bicini draddodiadol. Mae dynion yn defnyddio tan ffug hefyd felly rydyn ni am fwy o gynrychiolaeth.

"Oedd lot yn sôn am gyrff efo scars, body tech devices - [pobl sy'n] diabetic, neu efo stoma.

"Dwi'n meddwl bod pethau yn newid yn ofnadwy, mae cymaint o sôn am body positivity a iechyd meddwl. Mae pethau angen newid achos mae gymaint o ffilters ar social media ac mae'n bwysig i gael yr ochr arall - yr ochr go iawn.

"Achos dyna'n cwsmeriaid ni, dyna pwy sy'n prynu ganddon ni."

Ffynhonnell y llun, Mari Gwenllian

Mae Mari Gwenllian, sy'n wreiddiol o Aberystwyth yn siarad am hyder corff ar ei chyfrif Instagram, wedi blynyddoedd o deimlo diffyg hyder a rhwystredigaeth am siâp ei chorff.

Fe gyhoeddodd fideo ar ei chyfrif Instagram, dolen allanol yn trafod hyn, a dyna sydd wedi cael yr ymateb fwyaf gan ei dilynwyr, meddai.

"Mae gymaint o bobl yn uniaethu ac yn teimlo yr un peth neu o leia' yn 'nabod rhywun sy'n teimlo yr un peth.

"Wnes i dyfu lan yn fy arddegau mewn oes [gyda dylanwad y] Kardashians. Mae gen i hips bach a dim lot o ben-ôl ac yn y 90au roedd yn fwy ffasiynol i fod yn really denau a tal. Wedyn yn y noughties a'r 2010s cael siâp fel y Kardashians gyda hips mawr - dyna oedd y ffordd oedd pobl yn trio edrych.

"A mae fy nghorff i y math o gorff fydde byth yn edrych fel 'na.

Ffynhonnell y llun, Mari Gwenllian

"Doeddet ti byth yn gweld unrhyw un gyda bol, hip dips, love handles beth bynnag ti mo'yn galw nhw, mewn cylchgronau, rhaglenni teledu, adverts - a mae hynny'n neud gwahaniaeth i sut ti'n teimlo am dy gorff di," meddai Mari sydd wedi magu hyder i ddechrau modelu ei chrysau T yn ei dillad isaf ar Instagram.

"Mae pwy ti'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn neud gymaint o wahaniaeth i sut mae brain ti'n meddwl am ti dy hun. Ni'n treulio gymaint o amser ar y cyfryngau cymdeithasol - dyna beth mae brain ti'n meddwl sy'n normal achos dyna ti'n gweld bob dydd trwy'r dydd."

Mae Mari yn annog pobl i feddwl o ddifri pwy maen nhw'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a sut mae'r negeseuon a'r delweddau y maen nhw'n eu gweld yn eu gwneud i deimlo:

"Fi'n credu bod angen i ti feddwl- a yw'r cyfrif yma yn neud i fi deimlo yn dda am fi fy hun, neu ydy e'n neud fi feddwl pethau negyddol a self concious?

"Dwi'n trio annog pobl i ddilyn pobl sydd â math tebyg o gorff iddyn nhw eu hunain - pob math o gorff, nid jyst fel wyt ti mo'yn edrych.

"Mae hyder corff fi wedi newid yn llwyr yn y dwy, dair blynedd dwetha. Dwi heb newid fy nghorff i gymaint a hynna ond ffordd fi o feddwl sydd wedi newid, wedi cymryd fy nghorff fel rhywbeth positif a neis.

"Mae dangos fy nghorff i yn fy helpu i, ac oes mae hynny yn gallu helpu rhywun arall hefyd, gorau oll."

Hefyd o ddiddordeb: