Morgannwg yn trechu Sir Gaerloyw yn y T20 Blast

  • Cyhoeddwyd
Andrew BalbirnieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Balbirnie oedd y seren i Forgannwg gyda sgôr o 99 heb fod allan

Llwyddodd Morgannwg i drechu Sir Gaerloyw o 17 rhediad yn y T20 Blast yng Ngerddi Soffia nos Wener.

Fe wnaeth Morgannwg gyrraedd sgôr o 188-4 yn eu 20 pelawd nhw, gydag Andrew Balbirnie yn serennu trwy sgorio cyfanswm rhwystredig o 99 heb fod allan.

Er bod Sir Gaerloyw ar frig y tabl doedden nhw ddim yn gallu cyrraedd y targed a osodwyd gan y Cymry, gan orffen eu batiad ar sgôr o 171-6, gyda Graham Wagg yn cymryd tair wiced i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn parhau yn y pumed safle yn y tabl gydag un gêm yn unig o'r tymor yn weddill.