Y Bencampwriaeth: Abertawe 0 - 0 Birmingham
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal gafodd Abertawe yn erbyn Birmingham yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.
Prin oedd y cyfleoedd i'r naill dim na'r llall yn yr hanner cyntaf. Er hynny roedd amynedd y chwaraewyr a hyfforddwyr yn brin, ac fe arweiniodd hynny at gythrwfl ar yr ymylon am gyfnod.
Morgan Gibbs-White gafodd y cyfle gorau'r i'r ymwelwyr wrth iddo saethu'n syth at Neil Etheridge.
Yna cafodd peniad gan gapten Birmingham, Harlee Dean, ei arbed gan Freddie Woodman.
Ond nid oedd y naill ochr na'r llall wedi gallu cynhyrchu'r fflach o ysbrydoliaeth fyddai wedi ennill y gêm iddyn nhw, ac fe barhaodd hi'n ddi-sgôr hyd y diwedd.