Cwpan y Gynghrair: Casnewydd 3-1 Watford
- Cyhoeddwyd

Padraig Amond yn sgorio ei gôl gyntaf o'r tymor
Mae Casnewydd o'r Ail Adran drwodd i bedwaredd rownd Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Watford o'r Bencampwriaeth.
Tristan Abrahams, wnaeth rwydo ddwywaith yn erbyn Abertawe yn y rownd flaenorol, sgoriodd gôl gyntaf y gêm.
Daeth hynny yn dilyn cic o'r smotyn ar ôl trosedd yn erbyn Bradley Cooper.
Aeth Casnewydd dwy ar y blaen 10 munud yn ddiweddarach diolch i gôl y capten Joss Labadie - ei ergyd o 20 llath yn taro cornel uchaf y rhwyd.
Yn gynnar yn yr ail hanner fe darodd Watford yn ôl. Cic gosb Adalberto Penaranda ar ôl trosedd yn erbyn Ignacio Pussetto.
Ond llwyddodd Casnewydd i adfer eu mantais o ddwy gôl, ar ôl camgymeriad gan Daniel Phillips. Padraig Amond yn manteisio ar hynny ac yn cwblhau'r fuddugoliaeth.
Fe fydd Casnewydd yn wynebu Morecambe neu Newcastle yn y rownd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020