Teuluoedd yn cael rhybudd i adael eu tai gan yr MoD

  • Cyhoeddwyd
Ystâd Cashfield yn Hwlffordd

Mae dwsinau o deuluoedd yn Sir Benfro sy'n rhentu cartrefi o'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi derbyn rhybuddion i adael.

Dywed preswylwyr eu bod wedi achosi "nosweithiau di-gwsg" ar adeg pan mae arian yn dynn beth bynnag oherwydd coronafeirws.

Fe alwodd AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb, y penderfyniad yn "warthus" yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Mae teuluoedd sy'n rhentu cartrefi ar Ystâd Cashfield yn Hwlffordd wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw adael erbyn Mawrth 2021.

Cafodd y cartrefi eu prydlesu gan y MoD gan gwmni preifat, Annington Homes Ltd.

Dywedwyd wrth denantiaid mai'r rheswm am yr hysbysiad oedd bod y cartrefi yn cael eu rhyddhau yn ôl o'r Weinyddiaeth Amddiffyn i Annington Homes.

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn neges i breswylwyr yn dweud "mewn achosion o galedi" y gallan nhw estyn tenantiaethau tan fis Medi 2021 "fesul achos".

'40 a mwy o gartrefi'

Dywedodd llefarydd ar ran Annington Homes mai "penderfyniad y Weinyddiaeth Amddiffyn yn unig oedd i derfynu'r tenantiaethau hyn, ac ni ymgynghorwyd â ni ymlaen llaw".

"Rydym yn siarad â'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddeall pam gafodd yr hysbysiadau hyn eu cyhoeddi ac i gefnogi'r tenantiaid sydd wedi'u heffeithio."

Dywedodd Aden Cotterill, sydd wedi byw ar yr ystâd ers tair blynedd, ei fod yn benderfyniad "ffiaidd".

"Rydych chi'n siarad am ddeugain a mwy o gartrefi," meddai. "I hynny ddigwydd nawr, yn ystod pandemig byd-eang, ac yn ystod dirwasgiad pan nad oes gan bawb arian beth bynnag mae'n anghredadwy."

Dywedodd Mr Cotterill mai ei bryder mwyaf yw ceisio dod o hyd i gartref newydd.

"Mae fy mhartner yn anabl felly nid yw'n hawdd iddi fynd o gwmpas. Yn yr ardal hon nid oes llawer o dai ar rent ar hyn o bryd.

"Mae rhai o fy nghymdogion wedi colli swyddi ac yn ddiwaith ar hyn o bryd, mae coronafeirws wedi effeithio ar rai o fy nghymdogion a symud yw'r peth olaf ar eu meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Stephen Crabb fod angen i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gael strategaeth dai hirdymor

Mewn llythyr a welwyd gan BBC Cymru, gan Annington Homes at y Gweinidog Amddiffyn Jeremy Quin AS, dywed y cwmni fod "bron i 350 o deuluoedd" yn y DU wedi cael eu heffeithio gan rybuddion tebyg i'r hyn yn Hwlffordd.

Dywedodd y llythyr nad oedd yn ofynnol i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddychwelyd yr eiddo hyn i Annington Homes ac na allan nhw "amgyffred" y rhesymeg y tu ôl i benderfyniad y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ychwanegodd hefyd fod 11,000 o eiddo gwag yn eiddo i Annington, ac ar brydles gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ac y gallai'r rhain gael eu dychwelyd yn lle.

Dywed Mr Crabb y dylai'r MoD dynnu'r rhybuddion yn ôl ac egluro i San Steffan "beth sy'n mynd ymlaen".