Dyled rhent: £8m o fenthyciadau ar gael i denantiaid
- Cyhoeddwyd
Bydd £8m ar gael i'w fenthyg i denantiaid sydd wedi disgyn ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent dros gyfnod pandemig Covid-19.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r cynllun i helpu tenantiaid preifat sydd ddim yn derbyn budd-daliadau.
Ni fydd pobl oedd mewn dyled sylweddol gyda thaliadau rhent cyn y pandemig yn gymwys am yr arian.
Ar gyfer ceisiadau llwyddiannus, bydd yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol at landlordiaid, a bydd gan denantiaid bum mlynedd i ad-dalu'r swm a llog o 1%.
Wrth gyhoeddi'r cynllun newydd, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol na fyddai uchafswm i'r benthyciad, ond y byddai ar gyfer dyled rhent yn unig.
Ychwanegodd Julie James AS y byddai'r cynllun yn "stopio miloedd o bobl rhag cael eu troi allan o'u cartrefi ac i mewn i ddigartrefedd".
Dywedodd ei bod yn "anodd rhoi niferoedd" ar faint o bobl allai elwa, ond bod yr arian yn mynd i helpu "grŵp penodol o bobl".
'Angen mwy o wybodaeth'
Mae cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth yng Nghymru, Rebecca Woolley yn croesawu camau i helpu tenantiaid ad-dalu dyledion "mewn ffordd fforddiadwy", gan eu hymchwil nhw'n awgrymu fod y pandemig wedi taro rhentwyr "di-fai" yn arbennig o galed.
Ond mae angen rhagor o wybodaeth, meddai, a chamau i warchod tenantiaid rhag cael eu "gwthio ymhellach i drafferthion ariannol".
Ychwanegodd: "Bydd codi llog, hyd yn oed ar raddfa isel, yn golygu costau ychwanegol i denantiaid, felly mae angen i ymgeiswyr gael gwybodaeth a chefnogaeth i benderfynu ai'r cynllun yma yw'r opsiwn gorau iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020