Dyn o Fangor o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
![Dean Harry Skillin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/852F/production/_114559043_0f2d076a-bed4-42e0-ac33-ae530224affd.jpg)
Mae teulu Dean Skillin wedi talu teyrnged i "fab a brawd oedd yn byw bywyd i'r eithaf"
Mae dyn 24 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn arall ym Mangor.
Mae Brandon Sillence, o Doronnen yn y ddinas, wedi'i gyhuddo o lofruddio Dean Skillin, 20, o Gaernarfon.
Bu farw Mr Skillin yn dilyn adroddiadau o gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley ar Stryd yr Orsaf, Bangor nos Sadwrn, 19 Medi.
Cafodd ei drin gan swyddogion yr heddlu a pharafeddygon ond bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd Gwener fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands orchymyn fod Sillence yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf ar 11 Rhagfyr.
Mae Brandon Sillence hefyd wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i ddyn arall yn y gwesty ar noson y farwolaeth.
Cafodd dyddiad yr achos llys llawn ei osod ar gyfer 22 Mawrth yn Llys y Goron Caernarfon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020