Y Bencampwriaeth: Wycombe Wanderers 0 - 2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dechrau addawol Abertawe i'r tymor yn parhau gyda buddugoliaeth hawdd oddi cartref yn Wycombe.
0-2 oedd y sgôr ar ddiwedd un o gemau cynnar y diwrnod, gan olygu fod yr Elyrch ar frig y tabl am gyfnod, cyn gweddill gemau'r Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Fe gafodd Abertawe chwarter agoriadol campus, gyda chymorth tîm cartref oedd yn ildio meddiant yn hawdd.
Dywedodd y sylwebydd Iwan Roberts fod yr ornest bryd hynny fel "gêm rhwng dynion a bechgyn".
Daeth gôl gyntaf y gêm wedi 14 munud ar ôl i Andre Ayew gysylltu â chroesiad Jake Bidwell wrth y postyn pellaf.
Bu bron iddo rwydo eto yn fuan wedi i'r chwarae ailddechrau ond Jamal Lowe wnaeth ddyblu'r fantais wedi 22 o funudau - ei gôl gyntaf ers ymuno o Wigan yn yr haf.
Ofer oedd apêl chwaraewyr Wycombe fod Lowe'n camsefyll.
Doedd dim goliau pellach, er ail hanner mwy cystadleuol a chyfartal.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe wedi sicrhau saith pwynt wedi tair gêm ac maen nhw eto i ildio gôl y tymor hwn.