Cau ffatri Llanfyllin sy'n cyflogi 129 yn 'ergyd enfawr'

  • Cyhoeddwyd
StadcoFfynhonnell y llun, Google

Mae bwriad i gau ffatri gweithgynhyrchu sy'n cyflogi 129 ym Mhowys yn "ergyd enfawr" yn ôl undeb.

Mae cwmni Stadco wedi cyhoeddi cynllun ailstrwythuro fyddai'n golygu cau eu safle yn Llanfyllin.

Dywedodd y cwmni y byddai ymgynghoriad nawr yn dechrau ar gau'r safle a lleihau swyddi yn Lloegr.

Yn ôl undeb Unite mae'r newyddion wedi dod fel "sioc lwyr" i'r gweithlu.

"Byddai cau yn ergyd enfawr i economi canolbarth Cymru, ac yn ofnadwy i'r gweithwyr a'u teuluoedd," meddai'r undeb.

Dywedodd y cwmni nad oedd modd rhoi mwy o fanylion wrth i'r broses fynd rhagddi.